RHYS CAIN (bu farw 1614), arwyddfardd

Enw: Rhys Cain
Dyddiad marw: 1614
Priod: Catrin ferch Dafydd
Priod: Gwen wraig Rhys Cain
Plentyn: Elisabeth
Plentyn: Dorithie
Plentyn: Ann
Plentyn: Siôn Cain
Plentyn: Roger
Rhiant: Rheinallt ap John Wynn
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: arwyddfardd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Barddoniaeth; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Evan David Jones

Yn ôl yr hen eiriaduron bywgraffyddol, brodor ydoedd o Drawsfynydd, ond y mae'n debycach iddo gymryd ei enw barddol oddi wrth afon Cain ym Mechain Iscoed. Olrheinir ei ach o Edwin, frenin Tegeingl. Ei dad oedd Rheinallt ap John Wynn, ac yr oedd ei nain, fam ei dad, yn ferch Thomas Ireland, Croesoswallt. Yng Nghroesoswallt hefyd y treuliodd yntau ran helaethaf ei oes. Yno y bedyddiwyd ei blant ieuengaf, Ann yn 1579, Dorithie yn 1587, Roger yn 1589, ac Elisabeth yn 1592, ac yno y claddwyd ei wraig, Gwen, 19 Ebrill 1603. Priododd drachefn â Chatrin ferch Dafydd, yr hon a'i goroesodd. William Llŷn oedd ei athro barddol, a gadawodd ei lyfrau a'i roliau iddo wrth yr enw ' Rice ap Rinald alias Kain,' yn ei ewyllys, 1580, a chanodd yntau farwnad iddo ar ddull ymddiddan, megis y gwnaethai William Llŷn ar farwolaeth Gruffudd Hiraethog, ei athro yntau. Dywedir ei fod yn beintiwr ac iddo beintio darlun o'r Dioddefaint gan gythruddo rhai o'i gyfoeswyr. Fel arwyddfardd, a wnâi gartau achau i'w gwsmeriaid, yr oedd ganddo grap ar beintio, er mai digon cwrs oedd ei waith. Collwyd ei lyfr clera mawr, yn yr hwn y cadwai gopïau o'i gywyddau achyddol, yn nhân Wynnstay, 1859, ond erys corff sylweddol o'i waith rhwng y blynyddoedd 1574 a 1590 yn ei law ei hun (Peniarth MS 68 a Peniarth MS 69 ) a chasgliad o farwnadau (NLW MS 433B ). Edrychai Robert Vaughan, Hengwrt, arno fel ei athro mewn achyddiaeth. Ceir 10 llythyr (1592-1612) wedi eu hysgrifennu ato yn Peniarth MS 327 , ac yn Peniarth MS 178 , yn yr un casgliad, y mae cyfrif diddorol o'i enillion (£23 2s. 6ch.) ar daith glera. Claddwyd ef yng Nghroesoswallt 10 Mai 1614, a dilynwyd ef yn ei alwedigaeth gan ei fab Siôn Cain.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.