RHYS BRYCHAN (c. 1500), bardd

Enw: Rhys Brychan
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Nansi Ceridwen Jones

Y mae 27 o gerddi o'i waith ar gael mewn llawysgrifau, yn eu plith awdl a marwnad i Rosser Fychan o Dalgarth, awdl foliant i Lewis ap Risiart Gwyn o'r Fan, a cherddi i Einion Fychan o'r Tywyn, Watkin Fychan o Dreffylip, Syr Morgan ap Syr Sion Farchog o Dredeigr, William Herbert, ac eraill. Ceir y rhan fwyaf o'i waith yn y llawysgrifau canlynol: NLW MS 970E (177, 184), NLW MS 6511B (37, 129), NLW MS 13072B (177, 179); Peniarth MS 55 (3, 21, 97, 131, 153, 185), Peniarth MS 60 (87), Peniarth MS 83 (67), Peniarth MS 96 (51), Peniarth MS 100 (84, 87); Llanstephan MS 133 (28, 29, 728), Llanstephan MS 134 (143, 153, 300); Gwysaney MS. 38 (24, 27, 61); Wynnstay MS. 1 (59, 60); Hafod MS. 20 (126, 234); 'Llyfr Hir Llanharan' Cardiff MS 5.44. (98, 101, 209).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.