Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



Syr RHYS ap THOMAS ( 1449 - 1525 ), prif gynorthwywr Cymreig y brenin Harri VII ; trydydd mab Thomas ap Gruffydd ap Nicholas . Cymerasai ei daid, Gruffudd ap Nicholas [q.v.] , brydles yn 1440 ar arglwyddiaeth Dinefwr a thrwy hynny gosododd sylfaen ffortiwn y teulu. Yr oedd ei dad, Thomas ap Gruffydd , wedi cryfhau safle'r teulu trwy briodi Elizabeth merch ac aeres Syr John Gruffydd , Abermarlais , a allai hawlio ei fod yn ddisgynnydd y tywysogion Cymreig . Yn fachgen ieuanc treuliasai Rhys ap Thomas beth amser gyda'i dad yn llys Bwrgwyn , gan ddychwelyd c. 1467 . Pan fu farw ei dad etifeddodd Rhys y stad gan fod ei ddau frawd hŷn nag ef wedi marw o flaen eu tad. Pleidio teulu Lancaster oedd y traddodiad yn y teulu eithr yn wyneb amgylchiadau'r amseroedd hynny yr oedd rhaid wrth wyliadwriaeth a gofal. Yn ystod teyrnasiad Edward IV cododd Rhys lu milwrol lleol i gynorthwyo'r brenin, eithr wedi i Richard III esgyn i'r orsedd aeth i gyswllt â Harri Tudur a oedd y pryd hwnnw yn alltud yn Llydaw . Nid oes ddadl, y mae'n debyg, na fu iddo addo cynorthwyo Harri ac iddo, pan laniodd hwnnw yn Aberdaugleddau ddefnyddio ei ddylanwad lleol cryf o blaid Harri — y mae'n rhaid ystyried mai dychymyg ydyw'r stori i Rhys esmwythau ei gydwybod trwy adael i Harri groesi dros ei gorff tra cwrcydiai yntau o dan bont Mullock yn ymyl Dale . Ymunodd â llu Harri yn ymyl y Trallwng a chydag ef wŷr arfog a godasai yn nyffryn Tywi a gwnaethpwyd ef yn farchog am ei wasanaeth ar faes brwydr Bosworth ( 22 Awst 1485 ). Ym mis Tachwedd yr un flwyddyn derbyniodd arwyddion eraill o ffafr y brenin. Rhoddwyd iddo swydd cwnstabl a stiward arglwyddiaeth Brycheiniog , siambrlen siroedd Caerfyrddin ac Aberteifi , a stiward arglwyddiaeth Buellt ; efe, felly, a ddaliai'r prif swyddi yn Ne Cymru y gellid dewis gwŷr iddynt gan y brenin yn unig. Parhaodd Syr Rhys yn flaenllaw o blaid y frenhiniaeth newydd. Yr oedd yn bennaeth llu o wŷr meirch ym mrwydr Stoke ( 16 Mehefin 1487 ) pan orchfygwyd Lambert Simnel yr ymhonnwr ac y cymerwyd ef yn garcharor; cymerodd ran hefyd yr ymgyrch yn erbyn Boulogne (mis Hydref 1492 ). Ym mrwydr Blackheath ( 17 Mehefin 1497 ) cymerodd yr arweinydd, Lord Audeley , yn garcharor, a gwnaethpwyd Syr Rhys yn ‘ knight-banneret .’ Yr oedd yn bresennol pan roes Perkin Warbeck ei hunan i fyny yn Beaulieu Abbey ym mis Medi 1497 . Am y gwasnaethau hyn (a rhai eraill) fe'i gwnaethpwyd yn K.G.Marchog o Urdd y Gardys — ar 22 Ebrill 1505 . Parhaodd i fwynhau'r ffafr brenhinol wedi i Harri VIII esgyn i'r orsedd a chymerth ran yn ymgyrch y brenin hwnnw i Ffrainc yn 1513 . Treuliodd ei flynyddoedd diwethaf yng nghastell Carew a roesai'r perchennog yn gyfnewid am fenthyg arian ar yr eiddo. Yn y castell hwnnw cynhaliodd Syr Rhys dwrnameint mawr i ddathlu ei ethol yn K.G. ; gwahoddodd i'r twrnameint gynrychiolwyr o brif deuluoedd uchelwyr ym mhob rhan o Gymru . Gwnaeth gyfnewidiadau mawr yn y castell — adeiladu adeilad y porth a dodi ffenestri yn y castell.

Priododd Syr Rhys ap Thomas (1) Eva , merch Henri ap Gwilym , Cwrt Henri , a (2) Jane , merch Thomas Mathew , Radyr , Morgannwg , a gweddw Thomas Stradling , S. Dunawd , Morgannwg . Bu f. yn 1525 a chladdwyd ef yn eglwys y Brodyr Llwydion , Caerfyrddin . Symudwyd ei gorff yn ddiweddarach i eglwys S. Pedr yn yr un dref; adnewyddwyd y beddfaen yn 1865 . Bu ei weddw f. yn 1535 yng nghastell Pictwn a chladdwyd hithau yn eglwys y Brodyr Llwydion . Aeth ei stadau, eithr nid ei swyddi, i'w ŵyr, Syr Gruffydd ap Rhys , eithr fforfediodd hwnnw hwynt i'r Goron (a cholli ei fywyd hefyd) yn 1531 pan ddygwyd cyngaws o gynllwyn yn ei erbyn (gw. dan Rice ).

Llyfryddiaeth:

  • Y mae llawer o gyfeiriadau at Syr Rhys ap Thomas yng nghroniclau cyfnod y Tuduriaid ac yn Francis Bacon , Bacon's history of the reign of King Henry VII with notes , Caergrawnt, 1888 .
  • Y mae bywgraffiad manwl a ysgrifennwyd yn y 17eg g. yn argraffedig yn Cambrian Register , tair cyfrol, 1795–1818 , 1796 , i, a cheir dyfyniadau meithion o hwnnw yn Richard Fenton , A Historical Tour through Pembrokeshire , 1811 ;
  • ni wyddys pwy oedd awdur y bywgraffiad hwn (ond gw. yr ysgrif ‘ Rice , teulu’ ), a dylid bod yn ofalus wrth ei ddefnyddio.

Awdur:

Athro-Emeritus Syr James Frederick Rees, Ll.D., (1883-1967), Dinbych-y-pysgod / Caerdydd