Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



RHYS ap GRUFFYDD ( 1132 - 1197 ), arglwydd Deheubarth (‘ Yr Arglwydd Rhys ’).

Mab iau Gruffydd ap Rhys ap Tewdwr , a Gwenllian , ferch Gruffydd ap Cynan . Pedair oed yn unig oedd pan fu ei dad farw, y daeth ei hanner brodyr Anarawd a Chadell yn arweinwyr y gwrthryfel yn Ne Cymru yn erbyn y Normaniaid . Pan oedd yn 13 oed fe'i ceir gyda'i frawd hŷn, Maredudd , yn ymladd o dan arweiniad Cadell yn 1146 . Yn ystod y 10 mlynedd nesaf gwelwyd ail-ffurfio hen frenhiniaeth Deheubarth gydag ymlid teulu Clare o Geredigion a theulu Clifford o'r Cantref Bychan a Llanymddyfri , a daeth Rhys yn unig reolwr y deyrnas hon ar farwolaeth Maredudd yn 1155 ; yr oedd Cadell wedi'i glwyfo a cholli ei iechyd am byth, bedair blynedd yn gynt. Disgynnodd mantell hen frenhinoedd Deheubarth ar ysgwyddau Rhys ar adeg pan gawsai'r sefyllfa boliticaidd yn Lloegr ei thrawsffurfio gan esgyniad Harri II , a dyma'r ffaith bwysicaf ym mywyd Rhys am y 30 mlynedd nesaf. Ar waethaf rhai arwyddion o wrthwynebiad ymostyngodd i'r brenin yn 1158 ; cymerwyd Ceredigion a rhan helaeth o Ystrad Tywi oddi arno, a bu raid iddo hefyd gydnabod awdurdod uwch y brenin dros diriogaethau ei gyndadau yng Nghantref Mawr . At y weithred hon o wrogaeth, ymddengys i Rys orfod cytuno hefyd i beidio mwyach â'i alw ei hun yn frenin , oblegid o hyn ymlaen fe'i disgrifir yn y croniclau bod amser fel ‘ Yr Arglwydd Rhys ’ — gw. Owain Gwynedd a Madog ap Maredudd .

Am y saith mlynedd nesaf y mae gwrthryfeloedd a chytundebau ysbeidiol y cyfnod yma yn dyst i'w anesmwythyd a'i uchelgais ofer, ond cafodd ei gyfle yng ngwrthryfel mawr 1164-5 . Yr oedd Harri ar y pryd yn brysur yn ei wlad ei hun, a chymerth Rhys Geredigion ac Emlyn i'w feddiant (gan gynnwys caerau Aberteifi a Chilgerran ) ac yn fuan iawn fe'i cafodd ei hun yn ôl yn y safle a gymerasid oddi arno yn 1158 . Otherwydd nifer o amgylchiadau ffafriol, llwyddodd hyd ddiwedd ei oes i ddal ei afael yn llwyr ar y tiroedd hyn, ac yn wir, i ychwanegu atynt rannau o Ddyfed . Ychydig o berygl a oedd iddo i'w ofni o gyfeiriad na Phowys na Gwynedd ar ôl y flwyddyn 1170 pan fu f. Owain Gwynedd ; tua'r un adeg yr oedd y mwyaf terfysglyd o Normaniaid Dyfed yn cynorthwyo yn y goresgyn ar Iwerddon , a chafodd Harri gymaint o ofn yr ymgyrch honno, ac yntau eisoes wedi colli ei enw da gyda llofruddiaeth Thomas à Becket , fel y penderfynodd geisio cyfeillach Rhys . Cadarnhawyd awdurdod Rhys ar Ddeheubarth , a gwnaed ef yn Ustus De Cymru , a'i gydnabod fel teyrn Cymreig mwyaf blaenllaw ei gyfnod. O ganlyniad, ymwrthododd yntau â phob hawl i statws frenhinol ei hynafiaid, gan ymfodloni ar y gallu a oedd yn barod yn ei ddwylo a mynd ati i gydweithredu yn deyrngarol â'r brenin a chychwyn ffasiwn ymysg ei gyd-reolwyr yng Nghymru trwy fabwysiadu dulliau gwisgo ac arferion teuluol y Normaniaid a dilyn eu hesiampl hefyd mewn materion llysol a gwladwriaethol. Dechreuwyd adeiladu castell yn y dull newydd yn Ninefwr , yr hen brif ‘ddinas’; yn Aberteifi hefyd fe godwyd caer arall gyffelyb, sef honno y cynhaliwyd ynddi ‘eisteddfod’ enwog 1176 o dan nawdd Rhys . Rhoes ei gefnogaeth i urddau mynachaidd newydd yr oes ac yr oedd ganddo ddiddordeb yn lles crefyddol ei ddeiliaid ; cafodd y Tŷ-gwyn-ar-Daf ei nawdd, ef oedd gwir sefydlydd Ystrad Fflur , ac yr oedd Talyllychau yn greadigaeth arbennig o'i eiddo.

Cymylwyd ar ei flynyddoedd olaf gan elyniaeth a dygasedd ei feibion a chan ddifaterwch y llywodraeth newydd o dan Richard I tuag at y safle arbennig a ddaliasai Rhys hyd yn hyn. Gan gredu mai trwy ymosod y gallai ei amddiffyn ei hun orau, ailddechreuodd ymladd â'i gymdogion Normanaidd , a pharhaodd y brwydro hyd ddiwedd ei oes. Bu f. 28 Ebrill 1197 a chladdwyd ef yn eglwys gadeiriol Tyddewi . O'i wraig, Gwenllian ferch Madog ap Maredudd , ganed iddo wyth mab (gw. Gruffydd ap Rhys , Rhys Gryg , Maelgwn ) a merch, Gwenllian , a briododd Ednyfed Fychan .

Ffynonellau:

  • A History of Wales: from the Earliest Times to the Edwardian Conquest ;
  • Oxford Dictionary of National Biography ;
  • Llawysgrif Hendregadredd (N.L.W. MS. 6680) ;
  • Ceredigion: Transactions of the Cardiganshire Antiquarian Society , 1950, 18-33 ;
  • Archaeologia Cambrensis , 1948, 143-5 .

Awdur:

Yr Athro Thomas Jones Pierce, M.A., F.S.A., (1905-1964), Aberystwyth

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54