Y mae tystiolaeth gyfoes ar glawr sydd yn profi bod rhan (o leiaf) o'r hanes uchod yn hanesyddol gywir. Cyfansoddodd Cynddelw Brydydd Mawr , bardd pennaf Powys yn adeg Madog ap Maredudd , dair cân i Ririd . Yn un y mae'n talu diolch i'w noddwr am gleddyf hardd a gawsai'n rhodd ganddo; yn y ddwy arall y mae'n cwyno oblegid marw cynamserol ei wron, a ddigwyddodd, y mae'n debyg, wedi i Madog f. yn 1160 . Ceir cadarnhad yma mai Gwrgenau oedd ei dad a dywedir fod iddo frawd, Arthen ; disgrifir ef fel priodor mewn lle a enwir Pennant , a phwysleisir hefyd, lawer o weithiau, ei gysylltiadau â Dunoding , y cantref y mae Gest ynddo. Rhodd'r golau ar ei gyfathrach clos â Madog a sonnir am Ednyfed ap Rhiwallon a'i fab Einion . Y mae yma hefyd gyfeiriad trawiadol at orchfygu a lladd y Saeson cyn belled â thiroedd corsiog Tern y tu draw i Amwythig ; gwyddys fod arglwyddiaeth Croesoswallt ym meddiant Madog am rai blynyddoedd ac y mae sicrwydd i Ririd gael tir yn rhodd yno canys parhaodd ‘gwely’ a gysylltid â'i enw yn yr arglwyddiaeth hyd ddiwedd y Canol Oesoedd. Gellir felly gasglu oddi wrth hyn oll ei fod yn uchelwr blaenllaw yn ei ddydd, yn rhyfelwr enwog a hoffid yn fawr yn llysoedd Powys , ac yn briodor yr oedd yn eiddo iddo diroedd lawer ledled dwy diriogaeth. Y mae'n hawdd tybied, o'r herwydd, ei fod yn haeddu y statws a briodolir iddo gan Gynddelw — ‘ Priodawr Pennant pennaf uchelwr uchelwyr vodrydaf .’
Yr Athro Thomas Jones Pierce, M.A., F.S.A., (1905-1964), Aberystwyth