REYNOLDS, JOHN (1759 - 1824), gweinidog y Bedyddwyr yn y Felinganol, Sir Benfro

Enw: John Reynolds
Dyddiad geni: 1759
Dyddiad marw: 1824
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog y Bedyddwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: William Joseph Rhys

Ganwyd ddechrau 1759 yn Nhreglemais, treftadaeth ei deulu. Collodd ef a'i frawd iau eu rhieni cyn 1772. Bedyddiwyd ef yn Llangloffan yn 1778, dechreuodd bregethu yn 1785, ac fe'i hurddwyd gydag 'arddodiad dwylaw' yn 1788, er nas cefnogai'n ddiweddarach.

Ar gorfforiad y Felinganol cymerodd ef a John Clun, ei was, ei gofal. Ymwelodd droeon â'r Gogledd. Penodwyd ef ac eraill i areithio ar Galfiniaeth gymedrol yng Nghaerfyrddin adeg yr ymraniad Arminaidd yn 1799. Bu'n gymedrolwr cymanfa'r de-orllewin yn 1799 a 1802. Fe'i hetholwyd yn 1806 ar bwyllgor sefydlu athrofa'r Fenni.

Ceisiwyd yn aflwyddiannus ei gyhuddo o deyrnfradwriaeth adeg glaniad y Ffrancod yn Abergwaun (1797). Bu farw 13 Ebrill 1824, a'i weddw wedyn ymhen pum wythnos.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.