REYNOLDS, JOHN (fl. 1739), hynafiaethydd

Enw: John Reynolds
Priod: Eleanor Reynolds (née Burgess)
Rhiant: Gwen Reynolds (née Davies)
Rhiant: Jacob Reynolds
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: hynafiaethydd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant
Awdur: Walter Thomas Morgan

Mab Jacob Reynolds o'r Waun a Margaret, trydedd ferch Edward Davies o Riwlas, Llansilin, chwaer John Davies, achydd enwog. Priododd Eleanor, merch John Burgess o Groesoswallt, ac yn y dref honno y trigai. Yr oedd ef ei hun yn hynafiaethydd a gwnâi ddefnydd mawr o'r llawysgrifau a ddaeth i'w feddiant ar ôl marwolaeth John Davies, ei ewythr. Yn 1736 cyhoeddodd Heraldry Displayed, ail argraffiad o A Display of Herauldry gan John Davies, a gyhoeddwyd yn 1716. Yn 1739 cyhoeddodd The Scripture Genealogy Beginning at Noah and To which is added the Genealogy of the Caesars and Also a Display of Herauldry of the particular Coat of Armours now in use in the Six Counties of North Wales, etc. Nid yw'r llyfr hwn yn werthfawr iawn, ond y mae copïau ohono'n brin. Ceir copi ymhlith llawysgrifau Peniarth MS 146 yn y Llyfrgell Genedlaethol. Y mae'r Llyfrgell yn berchen ar gopi arall (NLW MS 7192B ), ond y mae hwnnw'n amherffaith.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.