Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



REES , LEWIS ( 1710 - 1800 ), gweinidog gyda'r Annibynwyr ; g. 2 Mawrth 1710 , yn Glynllwydrew , Blaen Glyn Nedd , Morgannwg , mab Rees Edward Lewis , ac ŵyr i offeiriad plwyf Penderyn . Cefnodd ei dad ar Eglwys Loegr , a magwyd y mab yn y ffydd Ymneilltuol . Addysgwyd yn ysgol Blaengwrach dan ofal Henry Davies [q.v.] , y gweinidog , ac yn ysgolion Joseph Simmons [q.v.] , Abertawe , Rice Price [q.v.] , Tyn-ton , ac academi Maesgwyn . Derbyniwyd ef yn aelod yn Blaengwrach , a dechreuodd bregethu yno. Ar gymhelliad Edmund Jones a'i athro, Vavasor Griffiths [q.v.] , aeth i gymryd gofal yr achos bychan yn y Tŷ Mawr , Llanbrynmair . Llafuriodd yn ddyfal yno, heb ei urddo, o 1734 hyd 1738 . Urddwyd ef yn Blaengwrach ar 13 Ebrill 1738 . Adeiladwyd yr Hen Gapel , Llanbrynmair , yn 1739 . Symudodd i Maesyronnen , Brycheiniog , yn 1745 ; ond dychwelodd i Lanbrynmair yn 1748 megis wedi ei eneinio o'r newydd at ei waith. Gafaelodd tân y diwygiad yn ei ysbryd. Casglodd eglwys gref yn Llanbrynmair a swcro egin-ganghennau'r Hen Gapel . Ymwelodd â pharthau Gwynedd i efengylu , a dioddefodd erlid creulon. Lewis Rees a agorodd ddrws a rhoi eli penelin i Howel Harris i ddod i'r gogledd am y tro cyntaf. Yn 1759 , symudodd i Tirdoncyn , Llangyfelach , Morgannwg , lle y treuliodd weddill ei oes yn fawr ei afiaith bregethu. Pregethai yn un o oedfeuon cymanfa bregethu Caerfyrddin gyda'i fab, Dr. Abraham Rees [q.v.] , ychydig cyn marw. Bu f. 21 Mawrth 1800 . Yr oedd yn un o bregethwyr mwyaf ei gyfnod, goddefgar ei ysbryd, llydan ei farn. Cyfunid yn ei bersonoliaeth ‘ synhwyrfryd doeth ’ yr Hen Annibynwyr coeth a llewyrch cynnes goleuadau mawr y Diwygiad Methodistiaid . Yn ôl cofnodion y Bwrdd Cynulleidfaol derbyniai roddion blynyddol bron yn ddifwlch o 1742 hyd 1781 .

Llyfryddiaeth:

  • Yr Adolygydd , iii, 199-217, 480-500;
  • Minutes of Cong. Fund Board , 1742-81 ;
  • Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru , 20-3;
  • Cofiant y Parch Lewis Rees gynt gweinidog yr efengyl yn Llanbrynmair, wedi hyny yn y Mynyddbach, ger Abertawy , Abertawe, 1852 ;
  • Hen Gapel Llanbrynmair, 1739–1939 , 1939 (1739-1839) , 33-8;
  • R. Bennett , Blynyddoedd cyntaf Methodistiaeth , 1909 a Methodistiaeth Trefaldwyn Uchaf, 1738–1852 , 1929 .

Awdur:

Y Parch. John Dyfnallt Owen, M.A., (1873-1956), Aberystwyth