REES, JOHN (1770 - 1833), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd

Enw: John Rees
Dyddiad geni: 1770
Dyddiad marw: 1833
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Ganwyd 20 Ebrill 1770, yng Nghaerfyrddin. Aeth i weithio i Loegr yn ieuanc a chafodd droedigaeth wrth wrando ar William Huntington yn pregethu yng nghapel Providence, Llundain. Aeth i Fryste yn 1791 a dechreuodd bregethu mewn cyswllt ag un o eglwysi'r arglwyddes Huntington. Dychwelodd i Gaerfyrddin yn 1796 ac ymunodd â'r Methodistiaid yno. Aeth i Lundain yn 1808 i wasnaethu'r Cymry yng nghapel Wilderness-row, eithr galwyd ef i Gasnewydd, Mynwy, yn 1810. Ordeiniwyd ef yn ordeiniad cyntaf y Methodistiaid yn sasiwn Llandeilo Fawr, 1811, ond ni bu'n hir yng ngwasanaeth y Corff. Aeth i'r Tabernacl, Rodborough, sir Gaerloyw, yn 1814, ac oddi yno i gapel Crown Street, Soho, Llundain, yn 1823, lle y treuliodd weddill ei oes. Bu farw 6 Ionawr 1833. Yr oedd ei lais yn gras, eto yr oedd ganddo ddoniau pregethu arbennig. Tynnai'r torfeydd i'w wrando yn Llundain a threfi eraill.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.