Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



REES , GABRIEL ( 1757 - 1807 ), gweinidog y Bedyddwyr yn Rhydwilym ; g. ddechrau 1757 , ger Llanglydwen . Bedyddiwyd ef yn 1778 yn Rhydwilym . Dechreuodd bregethu 'n union. Urddwyd ef Mehefin 1789 . Er preswylio ohono ym Mhant-hywel , Trelech , bugeiliai Rydwilym a'i changhennau am gyflog blynyddol i'w was. Pregethai'n aml yng ngwyliau'r enwad, ac âi ar deithiau cenhadol. Perthynai i'r pregethwyr a gam-enwid, oblegid eu nwyd efengylu, yn ‘ bobl y tân dieithr .’ Apwyntiwyd ef gydag eraill i bregethu ym mhlaid Calfiniaeth gymedrol yng Nghaerfyrddin yn 1799 . Er na chyfrifid ef yn feddyliwr mawr nid oedd nemor neb yn fwy derbyniol nag ef. Dioddefodd am fisoedd cyn ei farw ar 21 Mai 1807 . Canodd Joshua Watkins [q.v.] farwnad iddo.

Llyfryddiaeth:

  • H. Price , Hanes Eglwys Rhydwilym yr eglwys henaf ymhlith y Bedyddwyr yn Nghymru, ond un, sef Olchon, neu Gapelyffin, Swydd Frycheiniog , Hwlffordd, 1855 ;
  • J. Gwili Jenkins , Hanfod Duw a Pherson Crist athrawiaeth y Drindod a Duwdod Crist, yn bennaf yn ei pherthynas â Chymru , Lerpwl, 1931 , 276;
  • Trafodion Cymdeithas Hanes Bedyddwyr Cymru , 1930 ;
  • A History of Carmarthenshire , 1935–9 , ii, 233.

Awdur:

Y Parch. William Joseph Rhys, (1880-1967), Gelli, Rhondda / Treherbert