REES, DAVID (1801 - 1869), gweinidog gyda'r Annibynwyr, a golygydd

Enw: David Rees
Dyddiad geni: 1801
Dyddiad marw: 1869
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Annibynwyr, a golygydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: John Dyfnallt Owen

Ganwyd 14 Tachwedd 1801 yn y Gelli-lwyd, plwyf Trelech, Sir Gaerfyrddin. Cafodd y mwyaf o'i addysg yn ifanc ar yr aelwyd a'r ysgol Sul. Treuliodd flynyddoedd ar fferm ei dad. Am y gogwyddai at y weinidogaeth, aeth i ysgol yn Hwlffordd yn 1822; dechreuodd bregethu yn 1823 a threulio tymor byr yn ysgol ramadeg Caerfyrddin yn yr un flwyddyn a mynd i'r ysgol baratoi yn y Drefnewydd; derbyniwyd ef i athrofa'r Annibynwyr yn y dref honno yn 1825.

Ordeiniwyd ef yng Nghapel Als, Llanelli, 5 a 6 Gorffennaf 1829. Daeth yn fuan i fri mawr fel pregethwr a darlithiwr. Meddai ar bersonoliaeth a doniau un wedi ei eni'n arweinydd, digymrodedd ei argyhoeddiadau, a diysgog ei egwyddorion. Yr oedd yn ddinesydd goleuedig a doeth; rhoddes ei fryd yn gynnar ar wasnaethu'i dref a'r wlad. Yr oedd yn ei gynefin gyda materion dirwest, moes, cymdeithas, diwydiant, a chrefydd; etholwyd ef ar y Bwrdd Iechyd a Bwrdd y Gwarcheidwaid a phlannodd ddelw ei bersonoliaeth yn drwm ar holl fywyd y dref. Sefydlodd bedair eglwys Annibynnol newydd yn y dref, a daeth yn un o gedyrn ei enwad.

Gan ei fod wrth natur yn wleidydd a diwygiwr cymdeithasol, amgylchiad arbennig yn hanes Annibyniaeth ac Ymneilltuaeth yn ne Cymru oedd ei benodi'n olygydd cyntaf Y Diwygiwr, 1835. Bu ymryson mawr rhyngddo a phleidwyr addysg wirfoddol am y mynnai mai'r wladwriaeth a ddylai ddwyn y draul. Ar wahân i'w weinidogaeth rymus, ei brif gyfraniad i feddwl a bywyd ei gyfnod oedd golygu 'r Diwygiwr am 30 mlynedd (1835-65). Ni thalai sylw i glyfrwch gair ac ymadrodd ac ysmaldod gorawenog fel ei wrthwynebydd ' Brutus ' yn Yr Haul; dychanu a bychanu Anghydffurfiaeth oedd gwaith ' Brutus '; amddiffynnai David Rees egwyddorion Anghydffurfiaeth. Drwy'r Diwygiwr creodd farn gyhoeddus newydd ar Ymneilltuaeth radicalaidd; yr oedd yn bensaer ac adeiladydd y ffydd Ymneilltuol. Ymneilltuodd o olygyddiaeth Y Diwygiwr yn 1865 ac o'r weinidogaeth yn 1868. Bu farw 31 Mawrth 1869.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.