REDMOND, THOMAS (1745? - 1785), peintiwr mân-ddarluniau a phortreadau

Enw: Thomas Redmond
Dyddiad geni: 1745?
Dyddiad marw: 1785
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: peintiwr mân-ddarluniau a phortreadau
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth
Awdur: Megan Ellis

Ganwyd yn Aberhonddu. Dywedir mai clerigwr oedd ei dad, ond nid oedd neb o'r enw'n dal bywoliaeth eglwysig yng Nghymru ar y pryd. Prentisiwyd ef â pheintiwr tai ym Mryste, ond aeth i Lundain yn 1762 i astudio yn ysgol arlunio S. Martin's Lane. Gan iddo hefyd ddechrau arddangos ei ddarluniau'r flwyddyn honno, ganed ef, yn ôl pob tebyg, cyn 1745. Dangoswyd ei waith yn arddangosfeydd Cymdeithas Unedig yr Artistiaid a Chymdeithas Rydd yr Artistiaid rhwng 1762 a 1771, a dangoswyd 11 o'i fân-ddarluniau yn yr Academi Frenhinol rhwng 1775 a 1783.

Ymddengys i Redmond aros yn Llundain o 1762 hyd 1766 ond o Aberhonddu yr anfonwyd ei ddarluniau yn 1767. Symudodd i Bath tua 1769 a threuliodd weddill ei oes yno. Bu farw yno yn 1785 gan adael tri mab.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.