RECORDE
,
ROBERT
(bu f.
1558
),
mathemategwr a meddyg
;
g. yn
Ninbych-y-pysgod
,
sir Benfro
, mab
Thomas
Record
a'i wraig
Rose
, merch
Thomas
Jones
,
Machynlleth
. Graddiodd yn
Rhydychen
ac etholwyd ef yn
gymrawd
o
Goleg yr Holl Eneidiau
yn
1531
. Symudodd i
Gaergrawnt
; bu'n astudio mathemateg yno a phasiodd yn
feddyg
hefyd. Ar ôl bod yn
addysgu
yn
Rhydychen
am gyfnod ymsefydlodd yn
Llundain
fel
meddyg
; dywedir iddo fod yn
feddyg
i'r
brenin
Edward
VI
a'r
frenhines
Mari
. Yn
1549
dewiswyd ef yn
bennaeth y bathdy
(‘
Comptroller of the Mint
’) ym
Mryste
; dwy flynedd yn ddiweddarach daeth yn
arolygydd cyffredinol gweithydd mwyn arian
yn
Lloegr
ac
Iwerddon
. Bu f. yng
Ngharchar y King's Bench
,
Southwark
, yn
1558
; profwyd ei ewyllys (a wnaethpwyd yn y carchar) ar
18 Mehefin
y flwyddyn honno. Ymddengys fod teulu
Recorde
yn byw yn y
Maudlins
, a fuasai'n sefydliad (yn dyddio o'r Canol Oesoedd) i wahangleifion ychydig y tu allan i furiau
Dinbych-y-pysgod
.
Recorde
oedd
arloesydd ysgrifenwyr ar fathemateg
yn
Lloegr
; ef oedd y cyntaf i
ysgrifennu llyfrau ar rifyddeg, algebra, a geometri
. Cafwyd llawer o argraffiadau o'i lyfrau yn y
16eg g.
a'r
17eg.
Efe a
ddyfeisiodd y simbol =
. Dyma ei brif weithiau:
The Grounde of Artes
1540
,
The Whetstone of Witte
,
1557
, a
The Pathway to Knowledge
,
1557?
; y mae'r tri gwaith yn delio, yn y drefn y'u rhoddwyd, â'r tri phwnc a enwir uchod. Yn y trydydd llyfr y mae'n
egluro diffygion (‘eclipses’) ar yr haul a'r lleuad
yn ôl cyfundrefn
Copernicus
; yr oedd ymysg y rhai cyntaf yn
Lloegr
i fabwysiadu'r gyfundrefn honno.
Llyfryddiaeth:
-
The Edinburgh Review
, xxii,
1814
;
-
Henry Hallam
,
Introduction to the literature of Europe in
the fifteenth, sixteenth, and seventeenth centuries
,
Llundain, 18--
;
-
David Murray
,
Chapters in the History of Book-Keeping,
Accountancy, and Commercial Arithmetic
, Glasgow,
1930
,
1930
.
Awdur:
Athro-Emeritus Syr James Frederick Rees, Ll.D., (1883-1967),
Dinbych-y-pysgod / Caerdydd