mab hynaf y
Ralph
uchod; ohono ef y tardd rhes o uchelwyr blaenllaw yn eu sir; yr oedd ef yn fyw yn
1517
, a'i fab
THOMAS
RAVENSCROFT
yn fyw yn
1547
. Mab hynaf
Thomas
Ravenscroft
oedd
GEORGE
RAVENSCROFT
,
siryf
1578-9
, a fu f. yn
1592
ac a goffeir (fel eraill o'r tylwyth) yn eglwys
Penarlâg
; bu'n
aelod seneddol
dros ei sir yn
1563-7
; yr oedd ei briod,
Dorothy
, yn ferch ac aeres
John
Davies
,
cwnstabl
castell Penarlâg
a pherchen tŷ
Broadlane
gerllaw iddo. (Chwaer i'r
George
Ravenscroft
hwn oedd
Elizabeth
, priod yr
arglwydd-ganghellor
Thomas
Egerton
y gwelir ei hanes rhamantus yn y
D.N.B.
). O blant
George
, dylid enwi ei ferch
Katherine
, a briododd â
Robert
Davies
o'r
Gwysaneu
[q.v.]
, a thri o'i feibion:
(1)
THOMAS
RAVENSCROFT
, y mab hynaf,
siryf
1606-7
, a fu f.
1630
.
Meibion iddo ef oedd
ROBERT
RAVENSCROFT
(
1589
-
1640
,
aelod seneddol
yn
1614
), a
THOMAS
RAVENSCROFT
, cychwynnydd cainc annibynnol ‘
Ravenscroft
o
Pickhill
’ yn
sir Ddinbych
(ond nepell o
Fangor Iscoed
, gw.
P. Fadog
, iii, 181). Mab
Robert
Ravenscroft
oedd y
cyrnol
THOMAS
RAVENSCROFT
a ddaeth i beth sylw yn y
Rhyfel Cartrefol
. Serch bod ei briod yn ferch i'r
Brenhinwr
pybyr
William
Salusbury
[q.v.]
o
Rug
, ochrai ef gyda'r
Senedd
, ac ym mis
Tachwedd 1643
traddododd
gastell Penarlâg
i
fyddin y Senedd
— ‘
betrayed by one
Ravenscroft
’ yw geiriau sgornllyd yr
archesgob
John
Williams
am y peth (
J. R.
Phillips
,
Civil War in Wales
, i, 180; ii, 99). Ym mis
Mai 1648
(op. cit., ii, 371) penodwyd ef yn
aelod o'r pwyllgor seneddol a arolygai sir y Fflint
; ond ar ôl
1660
maddeuwyd ei gamwedd iddo. Dilynwyd ef gan ei fab
EDWARD
RAVENSCROFT
, a briododd ag
Anne
, ferch
Syr
Richard
Lloyd
o
Esclus
[q.v.]
, ac a fu f.
1678
. Eu mab hwy — a'r gŵr olaf o'r tylwyth hwn — oedd
THOMAS
RAVENSCROFT
(‘o
Broadlane
’),
1670
-
1698
,
siryf
1692
,
aelod seneddol
1697-8
, a fu f.
3 Mai 1698
, gan adael dwy aeres,
Honora
a
Catherine
. Trwy briodas â merch i
Honora
y daeth teulu
Glynne
[q.v.]
, a theulu
Gladstone
wedyn, i feddiant o
Broadlane
, a ailadeiladwyd yn
1752
ac a elwir heddiw'n ‘
Gastell Penarlâg
.’ Ar y llaw arall, prynwyd cyfran
Catherine
o'r stad (yn
1756
) gan deulu
Grosvenor
.
(2)
WILLIAM
RAVENSCROFT
,
ail fab
George
Ravenscroft
, a aned yn
Bretton
ac a aeth i
Goleg Brasenose
yn
Rhydychen
ac i
Lincoln's Inn
(yr oedd yn ‘
Bencher
’ yno); cafodd y swydd o ‘
Clerk of the Petty Bag
’ yn y
Siawnsri
. Bu'n
aelod seneddol
dros
sir y Fflint
yn
1586-7
ac yn
1601
, dros
Old Sarum
yn
1604-11
, a thros
fwrdeisdrefi'r Fflint
yn
1620-2
,
1624
,
1625
, a
1628
. Bu farw'n ddi-briod yn
1628
, a chladdwyd ym
Mhenarlâg
.
(3)
ROGER
RAVENSCROFT
(a fu f.
1634
),
rheithor
Dodleston
yn
sir Gaerlleon
.
Ar ryw olwg, y mwyaf adnabyddus o'r holl deulu yw mab iddo ef, sef y
cerddor
THOMAS
RAVENSCROFT
(
1592
-
1635?
), a aned ym
Mhenarlâg
ac a enillodd ei le yn y
D.N.B.
Cynefin ddigon, yn ein llyfrau tonau cynulleidfaol, yw'r geiriau ‘o Sallwyr
Ravenscroft
,’ sef y llyfr
The Whole Book of Psalms
a
olygodd
ef yn
1621
ac y cyfrannodd iddo gynganeddion i 48 o donau. Ni sonnir dim am ei dras yn y
D.N.B.
, ond y mae ei
Melismata
,
1611
, yn cynnwys cyflwyniad i'w ddau ewythr
Thomas
a
William
a enwyd dan (1) a (2) uchod.