QUARRELL
,
THOMAS
(bu f.
1709
),
pregethwr, Bedyddiwr rhydd-gymunol
;
Tybir ei fod ef o'r un teulu â gŵr cyntaf gwraig gyntaf
Vavasor
Powell
(
Paul
Quarrell
oedd ei enw),
James
Quarrell
o
Amwythig
[q.v.]
, a'r ddau
Quarrell
a ymddengys yng nghofnodion eglwys
Llanfyllin
.
Is-athro
(‘
usher
') yn
ysgol Biwritanaidd Trefaldwyn
ydoedd i ddechrau, a daliodd yno hyd yr
Adferiad
. Yn
1669
yr oedd yn byw yn yr
Eglwys Newydd
ger
Caerdydd
, ac yn prysur dorri'r gyfraith drwy
bregethu mewn cyfarfodydd dirgel
yn
Eglwysilan
,
Llanedern
,
Meirin
, a
Bedwas
. Yn
1670
cafodd ef (a dau arall) lythyr oddi wrth
Vavasor
Powell
ychydig cyn ei farw yn amgau rhodd fechan o arian. Yn
1672, ar 25 Gorffennaf
, cafodd drwydded i
bregethu
yn nhŷ
John
Maurice
yn
Shirenewton
; yn
1675
rhydd
Henry
Maurice
yn ei adroddiad le pur amlwg i
Quarrell
ymhlith
Ymneilltuwyr
Mynwy
. Y mae'n eglur oddi wrth eiriau
Maurice
mai
Bedyddiwr
ydoedd,
rhydd-gymunwr
, bugail preiddiau y
William
Thomas
[q.v.]
a fu farw yn
1671
, gyda'i fan canolog yn
Llantrisant
. Cynrychiolid ef a'i eglwys eang yng nghymanfa fawr
Llundain
yn
1689
, cymanfa yn agored i
Fedyddwyr
rhydd a chaeth. Bu f. yn
1709
.
Llyfryddiaeth:
-
Lambeth Manuscripts
639 (187-8), 972 (67-8);
-
Calendar of State Papers, Domestic
Series
, Record Publication
, Chas. II, E.B., 38 A, 209;
-
Cyfeirir at ddau argraffiad, gan E. B. Underhill,
1847, a Nathaniel Haycroft, 1865. Cyfeirir hefyd at Addenda B
(tt. 511–9 yn arg. 1847)
, Add. B, 516;
-
Hanes y Bedyddwyr yn Nghymru
,
1893–1907
, ii, 399, 445-6;
-
[
Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru
, i, 260;
-
R. T. Jenkins
,
Hanes Cynulleidfa Hen Gapel
Llanuwchllyn
, 1937
, 70-2].
Awdur:
Thomas Richards, D.Litt., (1878-1962), Bangor