Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



QUARRELL , JAMES ( fl. 1650-72 ), pregethwr Piwritanaidd, Annibynnwr ; Daw i'r golwg gyntaf fel un o ddisgyblion teithiol Vavasor Powell [q.v.] o dan Ddeddf y Taeniad ( 1650-3 ), un o brif amddiffynwyr y gŵr hwnnw yn yr Examen et Purgamen Vavasoris , a dal tarian Powell yn erbyn diffynwriaeth Cromwell drwy arwyddo'r Word for God . Sefydlwyd ef yn Ffordun gan y ‘ Triers .' Gyda'r Adferiad yn 1660 wele ef yng ngharchar Trallwng ; o dan Ddeddf y Pum Milltir gorfu arno symud o Ffordun i gartref newydd, a dewisodd Amwythig ; yno yn 1671 y rhoddodd gyngor petrus ddigon i Henry Maurice [q.v.] yng nghanol ei bryderon, ac yno, ar 22 Mai 1672 , y cafodd drwydded i bregethu yn un o ystafelloedd y King's Head .

Llyfryddiaeth:

  • Vavasoris Examen et Purgamen or Mr V. Powell's impartiall triall who being apprehended upon the late hue and cry raised after him, hath appealed to God and his country, and is found not guilty , Llundain, 1654 , 14;
  • Lambeth MS. 989, 58;
  • Calendar of State Papers, Domestic Series , Record Publication , Chas. II, E.B. 38A, 134;
  • Hanes y Bedyddwyr yn Nghymru , 1893–1907 , ii, 395-6;
  • The Nonconformist Memorial; being an Account of the Lives…and Printed Books of the two thousand Ministers ejected… , 1802–3 , iii, 150.

Awdur:

Thomas Richards, D.Litt., (1878-1962), Bangor