PURNELL, THOMAS (1834 - 1889), awdur

Enw: Thomas Purnell
Dyddiad geni: 1834
Dyddiad marw: 1889
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: awdur
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: William Llewelyn Davies

Ganwyd yn Ninbych-y-pysgod, Sir Benfro. Ymaelododd yng Ngholeg y Drindod, Dulyn, 1852, ac fe'i ceir yn Llundain wedi hynny, yn cychwyn ar yrfa newyddiadurwr. O 1862 hyd 1866 yr oedd yn ysgrifennydd cynorthwyol a llyfrgellydd yr Archaeological Institute of Great Britain and Ireland. Ffurfiodd glwb bychan, y ' Decemviri,' gydag A. C. Swinburne, J. McN. Whistler, ac eraill yn aelodau ohono. Cyhoeddodd: Literature and its Professors, 1867; Dramatists of the Present Day, 1871; Correspondence and Works of Charles Lamb, 1871; To London and Elsewhere, 1881; The Lady Drusilla a Psychological Romance, 1886; Dust and Diamonds: Essays, 1888; a golygodd Historia Quatuor Regum Angliae (gan John Herd) i'r Roxburghe Club, 1868.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.