PULESTON, Syr JOHN HENRY (1829 - 1908), bancer ac aelod seneddol

Enw: John Henry Puleston
Dyddiad geni: 1829
Dyddiad marw: 1908
Rhiant: John Puleston
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bancer ac aelod seneddol
Maes gweithgaredd: Economeg ac Arian; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Emyr Gwynne Jones

Ganwyd 2 Mehefin 1829 ym Mhlas Newydd, Llanfair Dyffryn Clwyd, mab hynaf John Puleston, disgynnydd o Bulestoniaid Emral. Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg Rhuthyn a Choleg y Brenin, Llundain. Bu yn yr Unol Daleithiau am gyfnod a daeth yn hysbys yno rhwng 1856 a 1860 fel golygydd dau newyddiadur, ac wedi hynny fel bancer cyfrifol ac fel cyrnol anrhydeddus dan yr arlywydd Wilson yn y Rhyfel Cartref. Wedi dychwelyd i Loegr bu'n aelod seneddol tros Devonport, 1874-92; ymgeisiodd yn erbyn David Lloyd George yn etholiad Sir Gaernarfon, 1892, ond ni lwyddodd i ennill y sedd. Gwnaed ef yn farchog yn 1887, a bu'n rhaglaw dinas Llundain a chwnstabl castell Caernarfon. Yr oedd Syr John yn Eglwyswr blaenllaw, yn Geidwadwr cydwybodol, ac yn Gymro cynnes a ymddiddorai ym mhob mudiad cenedlaethol Cymreig. Bu'n is-lywydd Cymmrodorion Llundain, trysorydd Cymdeithas yr eisteddfod Genedlaethol, 1880-1907, a chadeirydd cyntaf pwyllgor Clwb Cymreig Llundain. Bu farw 19 Hydref 1908. Yr oedd ei chwaer, Mary Ann Puleston ('Mair Clwyd') yn fam i'r Parch. John Puleston Jones.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.