Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



PUGH (TEULU), Mathafarn , sir Drefaldwyn . Yr aelod amlwg cyntaf o'r teulu oedd y bardd Dafydd Llwyd ap Llywelyn , a flodeuai tua 1480 ac a ganodd nifer o gerddi brud i Harri Tudur . Ymddengys fod ganddo stad helaeth ar lannau Dyfi uwchlaw Machynlleth . Y rhai nesaf yn y llinach oedd IFAN AP DAFYDD LLWYD , HUW ab IFAN , a JOHN ap HUW a fu'n ustus heddwch rhwng 1553 a 1566 . Gwraig yr olaf oedd Catherine , ferch Syr Richard Herbert , Trefaldwyn . Bu eu mab, ROWLAND PUGH , yn ustus heddwch a bu'n cynrychioli bwrdeisdref Trefaldwyn yn y Senedd yn 1572 ac yn 1588-9 . Bu hefyd yn ddirprwywr trethi 'r sir. Yr oedd ei ŵyr, yntau'n ROWLAND PUGH , yn fargyfreithiwr ; ymaelododd yn yr Inner Temple yn 1598 . Bu'n stiward Cyfeiliog , yn ustus heddwch , yn siryf yn 1609 ac yn 1626 , ac yn 1631 yn siryf Meirionnydd . Yr oedd yn bybyr o blaid y brenin ac yn 1644 llosgwyd ei dŷ gan filwyr y Senedd . Bu f. 26 Rhagfyr 1644 a'i gladdu yng Nghonwy . Yr oedd ei wraig gyntaf yn ferch Syr Richard Pryse , Gogerddan . Yr oedd ei ŵyr JOHN PUGH yntau'n fargyfreithiwr , ac yn arglwydd maenor Cyfeiliog , a bu'n cynrychioli bwrdeisdref Trefaldwyn yn y Senedd rhwng 1708 a 1727 . Pan ddarfu am y llinach wrywaidd gwerthwyd stad Mathafarn i Syr Watkin Williams Wynn yn 1752 .

Llyfryddiaeth:

  • Collections Historical and Archaeological relating to Montgomeryshire , v;
  • N.L.W., Pen. Deeds, Wynnstay Documents, Gogerddan Documents.

Awdur:

Elwyn Evans, M.A., Aberystwyth