PUGHE, JOHN ('Ioan ab Hu Feddyg'; 1814-1874), meddyg ac awdur

Enw: John Pughe
Ffugenw: Ioan ab Hu Feddyg
Dyddiad geni: 1814
Dyddiad marw: 1874
Priod: Catherine Pughe (née Samuel)
Plentyn: Buddug Anwylini Pughe
Plentyn: David Roberts Pughe
Plentyn: Taliesin William Owen Pughe
Plentyn: Rheinallt Navalaw Pughe
Plentyn: John Eliot Howard Pughe
Rhiant: Elizabeth Pughe
Rhiant: David Roberts Pughe
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: meddyg ac awdur
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Meddygaeth
Awdur: Idwal Lewis

Ganwyd 8 Medi 1814 yn Ysgubor Fawr, Chwaen Wen, sir Fôn, mab hynaf David Roberts Pughe ac Elizabeth ei wraig. Cymhwysodd ei hun fel meddyg yn Ysbyty S. Thomas, Llundain, ac ennill y radd o F.R.C.S. Ymsefydlodd am ychydig fel meddyg yn Abermaw ond yn Aberdyfi y cartrefai am y rhan fwyaf o'i oes. Treuliodd ran o dymor ei ieuenctid yng Nghlynnog, Arfon, lle'r oedd yn gyfaill i 'Eben Fardd.' Ysgrifennodd Eben Fardd: ei nodion a'i hynodion , 1864. Efe a fu'n gyfrifol am y cyfieithiad o Meddygon Myddfai, The Physicians of Myddfai, a olygwyd gan John Williams, 'Ab Ithel', a'i gyhoeddi gan y Welsh MSS. Society, 1864. Priododd Catherine Samuel, merch Samuel Samuel, Caernarfon, 21 Chwefror 1839; bu hi farw 14 Hydref 1862, ym Mhenhelyg, Aberdyfi. Yr oedd pedwar o'u meibion yn feddygon o fri, John Eliot Howard (bu farw 1880), Rheinallt Navalaw, Taliesin William Owen (bu farw 1893), yn gwasnaethu yn Lerpwl, a David Roberts (bu farw 1885) yn Sir Drefaldwyn. Merch iddynt oedd BUDDUG ANWYLINI PUGHE, arlunydd, a fu farw yn Lerpwl, 2 Mawrth 1939, yn 83 mlwydd oed. Ysgrifennodd Buddug Pughe hanes ardal ei mebyd, ond ni chyhoeddwyd y llawysgrif. Llanwai John Pughe le amlwg ym mywyd Aberdyfi a'r cylch, fel ustus heddwch a noddwr pob achos dyngarol a chrefyddol. O ran ei ddaliadau crefyddol gogwyddai at y Plymouth Brethren, a phregethai gyda'r enwad hwnnw yn yr eglwys a gychwynnwyd ganddo yn y cylch. Bu farw 9 Ebrill 1874, a'i gladdu ym mynwent Capel Maethlon, tir a berthynai i'r teulu.

DAVID WILLIAM PUGHE (1821 - 1862), meddyg

Ail fab D. R. Pughe. Ganwyd ef yn Chwaen Wen, sir Fôn, 21 Awst 1821. Yr oedd yntau yn feddyg, wedi'i addysgu yn Nulyn a Llundain, a graddio yn M.R.C.S. ac ymsefydlu yng Nghlynnog. Ysgrifennai farddoniaeth a thraethodau ar hynafiaethau i newyddiaduron a chylchgronau Cymreig, ac fe gyhoeddwyd nifer o'i lyfrynnau ar gestyll Gogledd Cymru gan H. Humphreys, Caernarfon : The History of Beaumaris Castle, The History of Caernarvon Castle, Historical sketch of Conway Castle, Historical sketch of Harlech Castle, Observations on the antiquities of the parish of Clynnog Fawr. Bu farw 22 Tachwedd 1862.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.