PUDDICOMBE, ANNE ADALISA ('Allen Raine'; 1836 - 1908), nofelydd

Enw: Anne Adalisa Puddicombe
Ffugenw: Allen Raine
Dyddiad geni: 1836
Dyddiad marw: 1908
Priod: Blynon Puddicombe
Rhiant: Letitia Grace Evans (née Morgan)
Rhiant: Benjamin Evans
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: nofelydd
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: David Jenkins

Ganwyd 6 Hydref 1836 yn Bridge Street, Castellnewydd Emlyn, Sir Gaerfyrddin, yn blentyn hynaf Benjamin a Letitia Grace Evans. Cyfreithiwr oedd ei thad, ac yn ŵyr i David Davis, Castell Hywel, ac yr oedd ei mam yn ferch i Thomas Morgan, meddyg o Gastellnewydd, ac yn ŵyres i Daniel Rowland, Llangeitho.

Yn ei mebyd aeth i ysgol i Gaerfyrddin, ac o 1849 hyd 1851 addysgwyd hi gyda theulu Henry Solly, gweinidog gyda'r Undodiaid yn Cheltenham. Rhwng 1851 a 1856 bu'n byw gyda chwaer iddi yn Southfields, ger Wimbledon. Dysgodd Ffrangeg ac Eidaleg, ac yr oedd yn gerddor medrus. Dychwelodd i Gymru yn 1856, ac yno y treuliodd y 16 mlynedd dilynol.

Ar 10 Ebrill 1872, yn eglwys Penbryn, Sir Aberteifi, priododd Beynon Puddicombe, cynrychiolydd tramor ariandy Smith Payne, Llundain. Aethant i fyw i Addiscombe ger Croydon am yr wyth mlynedd dilynol, ac yna i Winchmore Hill, swydd Middlesex. Ym mis Chwefror 1900, oherwydd afiechyd meddwl ei phriod, symudodd i Bronmor, Traethsaith, Sir Aberteifi, ac yno, 29 Mai 1906, y bu ef farw. Yno y bu hithau hefyd farw ar 21 Mehefin 1908. Claddwyd hwynt ill dau ym mynwent eglwys Penbryn.

Yn ei hieuenctid cyhoeddodd gyda chymorth ychydig o ffrindiau llengar gyfnodolyn yn dwyn y teitl Home Sunshine, a argraffwyd yng Nghastellnewydd Emlyn, ond byrhoedlog fu. Yn 1894 rhannodd hanner y wobr yn eisteddfod genedlaethol Caernarfon am stori-gyfres gyda chefndir Cymreig, a chyhoeddwyd hi yn y North Wales Observer o dan y teitl 'Ynysoer.' Ym mis Mehefin 1896 gorffennodd sgrifennu nofel a alwodd yn 'Mifanwy,' ond wedi'i gwrthod gan chwe chyhoeddwr newidiodd y teitl i A Welsh Singer , gan 'Allen Raine,' a chyhoeddwyd hi ym mis Awst 1897. Trosodd hon yn ddrama, ond unwaith yn unig y perfformiwyd hi. Ar ôl hyn cynhyrchodd un nofel ar ôl y llall, sef Torn Sails, 1898; By Berwen Banks, 1899; Garthowen, 1900; A Welsh Witch, 1902; On the Wings of the Wind, 1903; Hearts of Wales, 1905; and Queen of the Rushes, 1906 (a gynnwys ddigwyddiadau o ddiwygiad 1904 a 1905). Ar ôl ei marw cyhoeddwyd Neither Store-house nor Barn, 1908 (a ymddangosasai eisoes yn 1906 fel stori-gyfres yn y Cardiff Times); All in a Month, 1908 (stori yn ymwneud ag afiechyd ei gŵr); Where Billows Roll, 1909; Under the Thatch, 1910 (stori yn ymwneud â'r cancr a fu'n achos angau i'r awdur). Yn 1909 cyhoeddwyd An Allen Raine Birthday Book. Sgrifennodd nifer o straeon i gylchgronau, ac yn Wales , 1897, cyf. iv, cyhoeddwyd cyfieithiad Saesneg ganddi o 'Alun Mabon' (Ceiriog).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.