PRYS, STAFFORD (1732 - 1784), gwerthwr llyfrau ac argraffydd yn Amwythig

Enw: Stafford Prys
Dyddiad geni: 1732
Dyddiad marw: 1784
Priod: Ann Prys (née Bright)
Rhiant: Mary Price (née Evans)
Rhiant: Stafford Price
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwerthwr llyfrau ac argraffydd yn Amwythig
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: William Llewelyn Davies

bedyddiwyd yn 1732, ail fab Stafford Price, M.D., a Mary (Evans) - y tad o deulu Pertheirin, plwyf Llanwnog, Sir Drefaldwyn, a'r fam o deulu Stradlingiaid S. Dunawd, Morgannwg. Prentisiwyd ef, 21 Tachwedd 1750, gyda Thomas Durston. Cafodd Stafford Prys ryddfreiniad y ' Combrethren of Saddlers,' Amwythig, 24 Mai 1758, y flwyddyn yr ymsefydlodd fel argraffydd a chanddo ei fusnes ei hun yn y dref honno, a dygodd ei fusnes ymlaen hyd ei farw yn 1784 pryd y dilynwyd ef gan ei weddw Ann Prys (1737 - 1826), merch Thomas Bright, Amwythig. Argraffwyd llawer o lyfrau Cymraeg a baledi yng ngwasg Stafford Prys, gŵr y gellir bod yn weddol bendant ei fod yn Gymro. Yn Tair o Gerddi, a argraffwyd ganddo ym mis Hydref 1758, ceir y geiriau hyn: ' Rhybŷdd i'm Cydwladwyr y Cymru. Fy mod i Stafford Prys Gwerthwr Llyfrau yn agos i Farchnad y Garddwyr neu'r Green Market wedi codi Argraffwasg.' Am deitlau rhai o'i gynhyrchion gweler y ffynonellau a enwir isod.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.