Ganed ef yn nechrau'r 16eg g. ac addysgwyd ef yng Nghaergrawnt , lle y derbyniodd radd Ll.B. yn 1533 , a D.C.L. yn 1534 , ac oddi wrth fantell goch ei radd gelwid ef ‘ Y Doctor Coch .’ Priododd Ellyw , merch Owen Pool o Landecwyn , Merionnydd , a bu iddo saith o blant, dau fab a phum merch; Thomas [q.v.] oedd y mab hynaf. Yn 1535 penodwyd ef gan Thomas Cromwell i ymweled â'r mynachdai yng Nghymru a chymerth ran flaenllaw mewn diddymu'r mynachdai . Yn 1538 gwnaeth Cromwell ef yn ddirprwywr cyffredinol esgobaeth Llanelwy , a chafodd reithoraeth Llangwm , Llandrillo yn Rhos , a Llanuwchllyn . Yn nheyrnasiad Mari ac Elisabeth ymroddodd i wasanaeth gwladol ; bu'n aelod seneddol dros Feirionnydd dair gwaith, a bu'n siryf Meirionnydd saith gwaith, yn siryf sir Ddinbych bedair gwaith, yn siryf Môn ddwy waith, a siryf Caernarfon unwaith, ac yn ‘ custos rotulorum ’ Meirionnydd bron drwy oes Elizabeth . Bu hefyd yn aelod o gyngor y gororau . Yn 1561 gwnaed ef yn ganghellor Bangor a rhoddwyd rheithoraeth Llaniestyn iddo; yn Chwefror 1565 awgrymwyd ei wneud yn esgob Bangor , ond gwrthwynebai'r archesgob Parker gan nad oedd Prys nac offeiriad nac yn gymwys i fod felly. Yn 1560 cafodd gan y Goron faenor Tir Ifan yn cynnwys tiroedd yn Ysbyty Ifan a Phenmachno . Yr oedd yn gyfaill mawr i Robert Dudley , iarll Leicester , a phan roddodd Elizabeth arglwyddiaeth Dinbych yn anrheg i'r iarll yn 1564 , yr oedd Prys yn un o'i denantiaid, ac yn offeryn gormes yn ei law. Dywed Thomas Pennant amdano: ‘ a creature of the Earl of Leicester and devoted to all his bad designs .’ Byddai'n noddi'r beirdd , a'i enw ef yw y cyntaf ar restr ysgwieriaid yn y comisiwn a roddodd y frenhines Elisabeth i gynnal eisteddfod yng Nghaerwys yn 1567 . Gwnaeth ei ewyllys ar 3 Awst 1590 ; ychwanegwyd ati ar 4 Mai 1594 , a phrofwyd hi 24 Mai 1596 ; felly bu farw rhwng Mai 1594 a Mai 1596 . Mab iddo oedd y bardd Thomas Prys [q.v.] o Blas Iolyn .
William Rowlands, M.A., Porthmadog