PRYDDERCH, RHYS (1620? - 1699), gweinidog Annibynnol ac athro

Enw: Rhys Prydderch
Dyddiad geni: 1620?
Dyddiad marw: 1699
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Annibynnol ac athro
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: John Dyfnallt Owen

Ganed yn Ystradwallter, ger Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin. Cofnodir fod plant ganddo yn 1650, ac felly gellir tybio ddanfod ei eni c. 1620. Ystradwallter oedd treftadaeth ei deulu a'i gartref, ac yno y cychwynnodd ei ysgol enwog a barhaodd dros 40 mlynedd. Ni wyddys ymhle y cafodd ei addysg.

Ar 4 Rhagfyr 1662 dirwywyd ef yn llys yr archddiacon yng Nghaerfyrddin am wrthod mynd i'r eglwys blwyf. O hynny allan hyd ddiwedd ei oes, Ymneilltuwr cyson a chadarn ydoedd. Er llawer cynnig bras, methwyd â'i berswadio i wadu ei ffydd newydd. Er heb ei ordeinio, bugeiliai gorlannau bychain yr Ymneilltuwyr ar odre Mynydd Epynt; eu man cyfarfod canolog oedd castell Craig y Wyddan. Teithiai lawer i bregethu o Lywel i Lanwrtyd ac o Lanymddyfri hyd ororau Maesyfed.

Wedi marw Henry Maurice yn 1682, symudodd yn fuan i Aberllyfni, sir Frycheiniog. Yno yr oedd canolfan Ymneilltuaeth Brycheiniog. Yn y sesiwn gyntaf wedi cyhoeddi goddefiad 1689, trwyddedwyd ef a saith eraill i bregethu a dysgu ym Mrycheiniog. Yr oedd eisoes wedi ei ordeinio, 25 Ionawr 1688, ac ef oedd bellach yn weinidog 'eglwys Brycheiniog.' Rhifai ei ddisgyblion yn ysgol Aberllyfni rhwng 80 a 100, a rhoddwyd iddo gydnabyddiaeth o £6 y flwyddyn o gronfa gyffredin yr ' Happy Union ' (1690-92). Aeth y gair ar led amdano fel athro a hyfforddwr heb ei ail. Hebryngodd do ar ôl to o ddisgyblion i safleoedd o wasanaeth a dylanwad. Un o'r pennaf ohonynt oedd William Evans, Pencadair, pennaeth cyntaf academi Caerfyrddin. Ef a gyhoeddodd Gemmeu Doethineb , cyfrol berlog o ddiarhebion ac o 'synhwyrfryd doeth.' Bu farw 25 Ionawr 1699.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.