Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



PRYCE , THOMAS ( 1833 - 1904 ), hynafiaethydd ; g. 5 Medi 1833 , mab David Pryce , Trederwen Hall , Llandrinio , sir Drefaldwyn . Addysgwyd ef yn y Liverpool College . Ar ôl gadael yr ysgol ymfudodd i Java , lle priododd yn 1863 â merch i Jacobus G. T. a Aldous van Motman o Dramaga . Ar ôl treulio 28 mlynedd yn Java aeth am bum mlynedd i'r Hâg . Oddi yno dychwelodd i Gymru ac aeth i fyw i Bentre Heylin , Llandysilio , sir Drefaldwyn . Cymerodd ran amlwg ym mywyd cyhoeddus y sir. Bu'n ustus heddwch , yn aelod o'r cyngor sir , a chadeirydd y cyngor plwyf . Yr oedd yn hynafiaethydd brwd ac yn aelod o gyngor y Powysland Club . Ysgrifennodd hanes plwyf Llandysilio ac fe'i cyhoeddwyd yn Mont. Coll. , xxxi a xxxii. Bu f. 23 Mehefin 1904 , a chladdwyd ef ym mynwent Llandysilio .

Llyfryddiaeth:

  • Bye–Gones, relating to Wales and the Border Counties , 1904 , 370-1;
  • Collections Historical and Archaeological relating to Montgomeryshire , xxxiii, 282-4.

Awdur:

Walter Thomas Morgan (1912-90), Aberystwyth