PROPERT, JOHN (1793 - 1867), meddyg, sylfaenydd y Medical Benevolent College, Epsom

Enw: John Propert
Dyddiad geni: 1793
Dyddiad marw: 1867
Priod: Juliana Propert (née Ross)
Plentyn: John Lumsden Propert
Rhiant: Thomas Propert
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: meddyg, sylfaenydd y Medical Benevolent College, Epsom
Maes gweithgaredd: Addysg; Meddygaeth; Dyngarwch
Awdur: Moelwyn Idwal Williams

Ganwyd 19 Gorffennaf 1793 ym Mlaenpistyll Llangoedmor, Sir Aberteifi, mab i Thomas Propert. Aeth i ysgol ramadeg Aberteifi. Ymunodd â'r fyddin pan yn ifanc iawn, ond gan na welai lawer o obaith am ddyrchafiad, y gadawodd y gwasanaeth hwnnw ac ymrwymodd yn freintwas gyda Dr. Noot yn Aberteifi. Yr oedd yn dlawd ei amgylchiadau, ond cynorthwywyd ef gan berthynas, ac aeth i Lundain yn ddisgybl i Dr. Abernethy. Pan yn 21 oed cafodd ei ddiploma. Yr oedd yn llwyddiannus yn ei alwedigaeth ac ymsefydlodd yn Aberteifi, lle yr enillodd barch mawr fel meddyg a dyfod yn ddyn cyfoethog iawn. Tanysgrifiai yn hael at y Medical Protection Society. Ef oedd sylfaenydd a thrysorydd y Medical Benevolent College yn Epsom a agorwyd gan tywysog Albert yn 1855. Yr oedd yn gadeirydd bwrdd cyfarwyddwyr y Carmarthen and Cardigan Railway. Priododd â Juliana Ross. Bu farw 8 Medi 1867. Yr oedd ei fab, JOHN LUMSDEN PROPERT (1834 - 1902), yn enwog fel meddyg a beirniad celf.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.