PRITCHARD, JOHN THOMAS (1859 - 1890), cerddor

Enw: John Thomas Pritchard
Dyddiad geni: 1859
Dyddiad marw: 1890
Rhiant: Jane Pritchard
Rhiant: Thomas Pritchard
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Eisteddfod; Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd 10 Gorffennaf 1859 yn Cefn Capel Cwta, Bethesda, Sir Gaernarfon, mab Thomas a Jane Pritchard. Wedi gorffen ei addysg yn yr ysgol ddydd, aeth yn ddisgybl-athro, a phasiodd drwy'r holl arholiadau. Cafodd gwrs o addysg gerddorol a gwersi ar ganu'r organ gan Dr. Rolant Rogers. Yn 1878 dewiswyd ef allan o nifer o ymgeiswyr, wedi prawf gan Dr. Bridge, Caerlleon, yn organydd eglwys S. Marc, Wrecsam. Meddai dalent arbennig fel cyfeilydd, a gwasnaethodd yn eisteddfodau cenedlaethol Lerpwl a Wrecsam fel cyfeilydd ac unawdydd ar y piano. Am chwe blynedd bu'n arweinydd Cymdeithas Gorawl Wrecsam. Cyfansoddodd amryw ddarnau. Yr oedd ei rangan, ' Y Gwynt,' i leisiau meibion, yn ddarn prawf yn eisteddfod Bangor, 1891. Bu ei ganeuon, ' Y Marchog ' ac ' Iesu, Cyfaill F'enaid Cu,' yn boblogaidd. Bu farw 21 Awst 1890, a chladdwyd ym mynwent Glanogwen, Bethesda.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.