PRITCHARD, CHARLES MEYRICK (1882 - 1916), chwaraewr pêl droed (Rygbi), fel blaenwr

Enw: Charles Meyrick Pritchard
Dyddiad geni: 1882
Dyddiad marw: 1916
Rhiant: John Pritchard
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: chwaraewr pêl droed (Rygbi), fel blaenwr
Maes gweithgaredd: Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden
Awdur: Moelwyn Idwal Williams

Ganwyd 30 Medi 1882 yn fab i John Pritchard, un o sylfaenwyr clwb Rygbi Casnewydd, ac addysgwyd yn yr ysgol ganolraddol yno. Yn 19 oed, dechreuodd chwarae dros Gasnewydd, a chadwodd ei le hyd 1911; bu hefyd yn cynrychioli Cymru 19 o weithiau.

Aeth allan i Ffrainc yn rhyfel 1914, gyda'r South Wales Borderers, a dyrchafwyd ef yn gapten. Bu farw o'i glwyfau, 15 Awst 1916.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.