PRITCHARD
,
EVAN
(‘
Ieuan Lleyn
’;
1769
-
1832
),
bardd
.
Digwydd ei enw weithiau fel
Evan
Richards
, a'i enw barddol fel ‘
Ieuan ap Rhisiart
,’ ‘
Ifan Lleyn
,’ a ‘
Bardd Bryncroes
.’ Mab ydoedd i
Richard
Thomas
,
saer maen
, a
Mary
Charles
, merch
Charles
Mark
[q.v.]
,
Tŷ-mawr
,
Bryncroes
, un o
bregethwyr
cynnar y
Methodistiaid
yn
Llŷn
. Yr oedd ei fam yn
brydyddes
bur nodedig.
Tua 1795
ymfudodd ei rieni i
America
, a chymerth
Ieuan
ei gartref gyda'i daid yn
Nhŷ-mawr
, ac ar ôl ei farw ef, ym
Mai 1795
, gyda'i ewythr
Lewis
Charles
, yn yr un lle. Yn y cyfnod hwn bu'n
athro ysgol
yn
Llanddeiniolen
. Yn
1800
aeth i
Loegr
yn
swyddog tollau
. Dychwelodd i
Gymru
tua 1812
. Yn
1816
priododd ei gyfnither,
Mary
Roberts
,
Hen-dŷ
,
Bryncroes
, a bu iddynt ddau fab a merch. Ar ôl dychwelyd i
Lŷn
bu'n
cadw ysgol
ym mhlwyf
Bryncroes
a'r plwyfi cyfagos hyd ei f.,
14 Awst 1832
. Cystadleuodd droeon yn eisteddfodau'r cyfnod, e.e. yn
Ninbych
yn
1792
ar ‘
Cyflafan y Beirdd
,’ yn y
Bala
yn
1793
ar ‘
Tymhorau'r Flwyddyn
’ ac yn
Ninbych
yn
1828
ar ‘
Gwledd Belsassar
.’ Ar
16 Hydref 1799
urddwyd ef a
‘
Dafydd Ddu Eryri
’
a
‘
Gutyn Peris
’
yn
feirdd Cadair Gwynedd
gan
‘
Iolo Morganwg
’
pan oedd y gŵr hwnnw ar ei daith ym
Môn
ac
Arfon
. Yn
Ionawr 1800
ymddangosodd y rhifyn cyntaf o gylchgrawn a elwid
Greal neu Eurgrawn
, wedi ei argraffu a'i gyhoeddi yng
Nghaernarfon
. Ar ei ddechrau ceir cywydd annerch gan
‘
Dafydd Ddu Eryri
’
a rhagymadrodd gan ‘
Ieuan Lleyn
,’ a diau mai'r ddau hyn oedd y
golygyddion
, er na ddywedir hynny'n bendant. Nid ymddangosodd ond un rhifyn o'r cylchgrawn, ac y mae'n debyg mai'r rheswm am hynny oedd i
Ieuan
fynd i
Loegr
yn fuan wedyn. Cyhoeddwyd
Caniadau Ieuan Lleyn
ym
Mhwllheli
yn
1878
o dan olygiaeth
‘
Myrddin Fardd
.’
Ysgrifennodd rai emynau sy'n adnabyddus hyd heddiw. (Ar hynny gw.
J.
Thickens
,
Emynau a'u Hawduriaid
, 75.)
Llyfryddiaeth:
-
W. O. Evans
, ‘Beirdd a Llenorion Lleyn,’ yn
Cyfansoddiadau Buddugol Eisteddfod Gadeiriol
Sarn Meillteyrn, Awst 1883
, Sarn, 1884
, 104-13;
-
J. Jones (‘Myrddin Fardd’)
Enwogion Sir Gaernarfon
, 1922
;
-
‘Adgof uwch Anghof.’ Llythyrau lluaws o Brif
Enwogion Cymru
, 1883
, 19-20;
-
Additional Manuscript in the British
Museum
15030 (150).
Awdur:
Y Prifathro / Syr Thomas Parry, D.Litt., (1904-85), Bangor /
Aberystwyth