PRITCHARD, EDWARD (1839 - 1900), peiriannydd sifil

Enw: Edward Pritchard
Dyddiad geni: 1839
Dyddiad marw: 1900
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: peiriannydd sifil
Maes gweithgaredd: Peirianneg, Adeiladu, Pensaerniaeth Forwrol ac Arolygu Tir
Awdur: Elwyn Evans

Ganwyd yn Wrecsam ym mis Medi 1839. Dechreuodd ei yrfa fel ' surveyor ' bwrdeisdref Clitheroe a bu wedi hynny yn Bedford ac yn Warwick. Yn ddiweddarach dechreuodd fusnes breifat a bu'n gyfrifol am weithiau dŵr, carthffosiaeth, neu dramffyrdd mewn dros gant o drefi ym Mhrydain. Aeth i Gaergystennin i gynhori ar garthffosiaeth yno, a bu'n gwneud gwaith cyffelyb yn Cape Town ac mewn trefi eraill yn Ne Affrig. Bu hefyd yn gweithio fel peiriannydd mwyngloddiau, a bu'n gweithio gyda'r mwyngloddiau aur yn Silesia dan Lywodraeth Awstria-Hwngari a hefyd yn cynghori cwmni a weithiai yn British Columbia. Bu farw 11 Mai 1900.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.