Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



PRICHARD , WILLIAM (bu f. 1713 ), Bedyddiwr Neilltuol , un o brif ddisgyblion John Miles [q.v.] . Serch hynny, ym mlynyddoedd y Weriniaeth , prin y gellir dywedyd ei fod yn ddisgybl cyson ac ufudd iawn i ddelfrydau'r pennaeth; yn fuan wedi ei ordeinio fel gweinidog i'r Bedyddwyr caeth yn y Fenni yn 1653 bu ef (a dau arall o'r eglwys) yn euog o anfon llythyr o ewyllys da at Henry Jessey , prif arweinydd y Bedyddwyr rhydd-gymunol yn y wlad, i'w anfon yn ei dro at eglwys rydd-gymunol Hexham , yr hyn a gyfrif am orchymyn oddi wrth gyfarfod cyffredinol Aberafan (ddechrau 1654 ) nad oedd Bedyddwyr Gogledd Mynwy ar unrhyw gyfrif i gyd-gymuno â phobl heb eu bedyddio drwy drochiad. Nid oes brawf bod William Prichard wedi derbyn dim tâl erioed oddi wrth yr awdurdodau Piwritanaidd — fel y bu yn hanes John Miles a'i brif gynorthwywyr — er y geirid rhai penderfyniadau fel pe buasai yn euog o hynny; ac felly naturiol yw credu ei fod yn cydfyned a pholisi eglwys y Fenni i ymgroesi'n bendant rhag unrhyw bregethwyr a dderbyniai y fath dâl (penderfyniad 11 Gorffennaf 1655 ). Nid oes brawf bod Miles yn credu dim mewn arddodiad dwylo ar aelodau unigol, ond sicr yw i William Prichard ac arweinwyr eglwys y Fenni (ac eglwysi'r goror yn gyffredinol) dderbyn yr arfer yn frwdfrydig, er i hynny, medd Henry Maurice yn 1675 , achosi peth rhwyg yn eu plith. Oherwydd colli llyfrau llys ‘consistony’ Llandaf , ni wyddom fawr am helynt Prichard fel Anghydffurfiwr yn nyddiau'r Adferiad ; ond gwyddom i William Jones o Rydwilym [q.v.] ddod i'r dwyrain yn 1666 neu 1667 , cael ei fedyddio gan William Prichard , a derbyn arddodiad dwylo, ac yna ddychwelyd i'r gorllewin gyda'r efengyl driphlyg o fedydd troch, arddodi dwylo, a'r Swper caeth cyfyngedig. Teithiodd William Prichard yng nghwmni Thomas Watkins [q.v.] i dueddau Rhydwilym i sefydlu'r eglwys newydd ar ddydd Sul, 12 Gorffennaf 1668 , ac ni ellir pwysleisio gormod ar y ffaith iddo fod yn ddolen gydiol rhwng Bedyddwyr Ilston a Bedyddwyr y de-orllewin: gorffwys llawer iawn o bwys traddodiad organig y Bedyddwyr Neilltuol ar ysgwyddau William Prichard . Yn 1672, ar 10 Awst , cafodd drwydded i bregethu yn dŷ ei hun, erbyn hynny yn Llandeilo Pertholau , ychydig i'r dwyrain o'r Fenni ; ond sicr yw mai dilynwyr William Prichard oedd y rhan fwyaf o'r 27 Ymneilltuwr a gyfrifwyd yn Llanwenarth yn 1676 a'r 41 yn y Fenni ei hun. Bu f. 27 Tachwedd 1713 yn weinidog ar eglwys y Fenni ers 60 mlynedd. Cyn ei farw yr oedd wedi gweled Deddf Goddefiad yn dod i rym, myned i gymanfa fawr Llundain yn 1689 , swcro arweinwyr newyddion a sefydlu cangen eglwysi yn Llanwenarth a'r Trosgoed , gweled cymanfa gyntaf Cymru yn dod i Lanwenarth yn 1700 i lanw'r capel cyntaf a godwyd gan Fedyddwyr Cymru yn 1695 .

Llyfryddiaeth:

  • Joshua Thomas , Hanes y Bedyddwyr ymhlith y Cymry (arg. Pontypridd), 210-35;
  • Records of the Churches of Christ, gathered at Fenstanton, Warboys, and Hexham, 1644-1720 , Llundain, 1854 (Hansard Knollys Soc., 1854 ) 344;
  • Calendar of State Papers, Domestic Series , Record Publication , Chas. II, E.B. 38A, 232;
  • Cyfeirir at ddau argraffiad, gan E. B. Underhill, 1847, a Nathaniel Haycroft, 1865. Cyfeirir hefyd at Addenda B (tt. 511–9 yn arg. 1847) , Add. B, 516;
  • Religious Developments in WalesSalt MS. 2112 yn llyfrgell William Salt, Stafford. Am ddisgrifiad byr o'i chynnwys, a'i diddordeb i Gymru, gw. Thomas Richards , t. 521–2 420-1.

Awdur:

Thomas Richards, D.Litt., (1878-1962), Bangor