PRICE, THOMAS (1809 - 1892), cerddor

Enw: Thomas Price
Dyddiad geni: 1809
Dyddiad marw: 1892
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Cerddoriaeth
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd yn Llanfair-ym-Muellt, sir Aberhonddu, 17 Mai 1809. Yn ddyn ieuanc symudodd i Grughywel i gadw siop, a bu yn glerc i undeb gwarcheidwaid y lle. Penodwyd ef yn organydd eglwys Llangatwg, a llanwodd y swydd am lawer o flynyddoedd. Yr oedd yn gerddor lled dda, a chyfansoddodd lawer o donau a darnau cerddorol. Ceir rhai o'i donau yn Yr Arweinydd Cerddorol ac yn Caniadau Seion (R. Mills). Adwaenir Thomas Price fel cyfansoddwr y dôn ' Cysur,' 5.5.6.5.D., sydd yn ein casgliadau tonau. Bu farw yn Henffordd 7 Mawrth 1892, a chladdwyd ef ym mynwent S. Edmund, Crughywel.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.