PRICE, ROGER (1834 - 1900), cenhadwr o dan Gymdeithas Genhadol Llundain ac ieithydd

Enw: Roger Price
Dyddiad geni: 1834
Dyddiad marw: 1900
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cenhadwr o dan Gymdeithas Genhadol Llundain ac ieithydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Evan Lewis Evans

Ganwyd 24 Ebrill 1834 yn Peityn Glas, ym mhlwyf Llandyfaelog, sir Frycheiniog. Daeth yn aelod o Fethania, Merthyr Cynog. Bu'n efrydydd yn Western College, Plymouth, ac apwyntiwyd ef gan y gymdeithas uchod yn 1858 i genhadaeth Makololo, yn Affrica. Rhwng y dwymyn a'r rhyfela, rhoed atalfa ar ei waith, a bu farw ei wraig a'i blentyn. Gwnaed ail gynnig o Kuruman, ond yn ofer. Wedyn anfonwyd ef i arfordir y dwyrain, gan weithio am gylch Tanganyika o Zanzibar, a sefydlu cenhadaeth trwy bris mawr yno. Yn 1883-4 ymwelodd â gogledd Bechuanaland a Matabeleland, ac ar 28 Gorffennaf dewiswyd ef yn athro yng ngholeg Moffat, yn Kuruman, lle y bu farw ar 21 Ionawr 1900. Yn 1896 cwplaodd gyfieithiad o'r Hen Destament o'r fersiwn Saesneg diwygiedig.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.