PRICE
,
ROBERT
(
1655
-
1733
),
barnwr
;
g.
14 Ionawr 1655
, ail fab
Thomas
Price
,
Giler
, plwyf
Cerrig-y-drudion
, a
Margaret
, merch ac aeres
Thomas
Wynne
,
Bwlchybeudy
, yn yr un plwyf. O ysgol
Rhuthyn
aeth i
Goleg S. Ioan
,
Caergrawnt
,
28 Mawrth 1672
, ond ymadawodd heb raddio a chael ei dderbyn yn
Lincoln's Inn
,
8 Mai 1673
, a dyfod yn
fargyfreithiwr
ym mis
Gorffennaf 1679
. Cyhoeddwyd cofiant (defnyddiol ac eithaf diddorol) iddo,
The Life of … Robert Price … One of the Justices of His Majesty's Court of Common-Pleas
, gan
E.
Curll
,
Llundain
, yn
1734
, a cheir manylion ei yrfa yn y
D.N.B.
; rhaid, felly, fodloni ar fraslun byr yma. Dechreuodd ei yrfa gyfreithiol pan ddewiswyd ef yn ‘
Attorney-general for South Wales
,’
1682
. Daeth yn
gofiadur
Maesyfed
yn
1683
, a bu'n dal amryw swyddi hyd nes y daeth yn
farnwr
cylchdaith Brycheiniog
yn
1700
. Fe'i dewiswyd yn un o
farwniaid yr Exchequer
,
24 Mehefin 1702
, a daeth yn un o
farnwyr
llys y Common Pleas
,
16 Hydref 1726
. Cyn hyn yr oedd wedi ei enwogi ei hun yn y
Senedd
, lle bu'n
aelod
dros
Weobley
fwy nag unwaith, yn enwedig pan wrthwynebodd,
1695-6
— a hynny yn llwyddiannus — fwriad y
brenin
William
III
i roddi arglwyddiaethau
Dinbych
,
Bromfield
, a
Iâl
i
Hans Williams
Bentinck
,
Is-Almaenwr
a ffefryn arbennig gan y
brenin
a'i creodd yn
iarll Portland
. Daeth
Price
i gymaint enwogrwydd yn yr achos hwn nes ennill iddo'i hun y teitl ‘
the patriot of his native country
.’ Wedi i'r brenin farw cyhoeddwyd,
1702
, dwy araith
Price
ar y mater hwn o dan y teitl
Gloria Cambriae: or the Speech of a Bold Briton in Parliament against a Dutch Prince of Wales
— gw.
Somers
,
Collection of Tracts
,
1814
, xi, 387-93. Yr oedd
Price
yn gyfeillgar â
Robert
Harley
,
iarll Oxford
; gw. cyfeiriadau ato a llythyrau a ysgrifennodd at
Harley
yn
Hist. MSS. Comm.
,
Rep. on the MSS. of the Duke of Portland
, iv-vi. Priododd,
23 Medi 1679
,
Lucy
, merch hynaf
Robert
Rodd
,
Foxley
,
sir Henffordd
, a bu iddynt dri phlentyn: yr aer oedd
Uvedale Tomkyns
Price
. Argreffir manylion llawn am ei ewyllys gan
E.
Curll
(op. cit.). Yr oedd yn gyfoethog a chanddo diroedd lawer yng
Nghymru
.
Cododd a gwaddolodd dŷ elusen i chwech o bobl dlawd
ym mhlwyf
Cerrig-y-drudion
. Bu f. yn
Kensington
,
2 Chwefror 1733
, a'i gladdu yn
Yazzor
,
sir Henffordd
.
Llyfryddiaeth:
- Enwyd y prif ffynonellau yng nghorff yr erthygl.
Awdur:
Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952),
Aberystwyth