PRICHARD, RICHARD (1811 - 1882), gweinidog Wesleaidd

Enw: Richard Prichard
Dyddiad geni: 1811
Dyddiad marw: 1882
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Wesleaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Griffith Thomas Roberts

Ganwyd ym Mangor, 31 Mawrth 1811. Ymunodd â'r seiat Wesleaidd yn 1823, dechreuodd bregethu yn 1827, a daeth cryn alw am ei wasanaeth yn fuan. Bu'n ' was cylchdaith ' ym Machynlleth (1829-31), a Llandysul (1831-2); derbyniwyd yn ymgeisydd am y weinidogaeth yn 1830 a dechreuodd deithio yn 1832. Gwasnaethodd gylchdeithiau Caerdydd (1832-3), Dolgellau (1834-5, 1845-7), Caernarfon (1836, 1866-8), Llanrwst ac Abergele (1837-9), Llanfaircaereinion (1840-2), yr Wyddgrug (1843-4, 1858-60), Llanfyllin (1848-50), Biwmares (1851), Lerpwl (1852-4, 1863-5), Rhuthyn (1855-7), Coedpoeth (1861-2), y Rhyl (1869-71), a Chonwy (1872). Wedi ymneilltuo yn 1873, ymsefydlodd yn y Rhyl, lle y bu farw 12 Mai 1882. Bu'n ysgrifennydd cronfa fenthyciol talaith Wesleaidd Gogledd Cymru o'i chychwyniad (1855) hyd ei ymneilltuad. Yr oedd yn bregethwr effeithiol, yn fedrus ynglŷn â chodi capelau a chlirio eu dyledion, ac yn awdur amryw lyfrau defnyddiol yn eu cyfnod. Bu ei Holwyddorydd Duwinyddol, 1857, yn boblogaidd am flynyddoedd. Golygodd Y Winllan.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.