PRICE
,
RHYS
(
1807
-
1869
),
gweinidog gyda'r Annibynwyr
;
g. yn
Penrhiw-llwyn-fynwent
,
Llangamarch
,
sir Frycheiniog
,
27 Chwefror 1807
; hanoedd o deulu parchus ac amlwg gyda chrefydd. Symudodd ei deulu i
Lanwrtyd
pan oedd yn ieuanc. Ni chafodd ond tri diwrnod o ysgol.
Gwehydd
ydoedd wrth ei alwedigaeth. Rhoes ei fryd ar ddarllen a myfyrio yn ei oriau hamdden, a daeth yn batrwm o ddyn hunanddiwylliedig. Meddai alluoedd naturiol cryfion, eithr cyfrifid ef yn hynod am ei odrwydd yn caru'r encilion ac osgoi cyhoeddusrwydd. Dechreuodd
bregethu
yn
Llanwrtyd
, ac aeth y gair ar led am ei ddawn fel
gweddïwr
a
phregethwr
. Gwrthododd alwad o
Ferthyr Tydfil
am na allai ddygymod â bywyd y gweithfeydd. Ordeiniwyd ef yng
Nghwmllynfell
,
19 a 20 Awst 1835
. Canolodd ei weinidogaeth o'r dechrau ar
sefydlu cyrddau gweddïo ac ysgolion Sul ar hyd y tai
. Cymerth ofal (yn rhannol) o
eglwys Baran
a sefydlu canghennau yn
Rhydyfno
,
Gwter Fawr
(
Brynaman
), a
Chwmtwrch Uchaf
. Llefarai'n llifeiriol a'i arddull ar ei ddelw ei hun. Gwrthodai fynd i gymanfaoedd, gan ddewis yn hytrach gwmni natur a'i lyfrau. Ystyrid ef yn
awdurdod ar faterion meddygol
, a bu ei lyfr,
Llysieu-lyfr Teuluaidd
1840
, yn safonol am dymor hir.
Cyfansoddodd lawer o ddarnau barddonol
o natur ddiwygiadol; disgynnai ysbryd yr emynydd arno yn aml. Bu f.
6 Gorffennaf 1869
.
Llyfryddiaeth:
-
Hanes Eglwys Cwmllynfell
, , a
, 1935
, 49-79;
-
Y Tyst Cymreig
, Lerpwl, 1867-1870
, Gorffennaf ac Awst 1869;
-
Cofiant y diweddar Barch. Rhys Pryse,
Cwmllynfell
, Llanelli, 1872
;
-
Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru
, ii, 151-8.
Awdur:
Y Parch. John Dyfnallt Owen, M.A., (1873-1956), Aberystwyth