PRICE, JOHN (1857 - 1930), cerddor

Enw: John Price
Dyddiad geni: 1857
Dyddiad marw: 1930
Rhiant: Ann Price
Rhiant: Dafydd Price
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd 5 Mawrth 1857 yn Llangamarch, sir Frycheiniog, mab Dafydd ac Ann Price. Symudodd y teulu i fyw i Beulah, ger y Garth, sir Frycheiniog, lle y bu byw ar hyd ei oes. Yn fachgen dysgwyd iddo gyfundrefn Hullah a daeth i ddarllen cerddoriaeth yn rhwydd. Ymunodd yn nosbarth solffa D. Buallt Jones, a chafodd wersi gan D. W. Lewis, Brynaman, a graddiodd yn G. a L.T.S.C. Cynhaliodd ddosbarthiadau cerddorol ar hyd a lled ardaloedd siroedd Brycheiniog, Maesyfed, a Chaerfyrddin. Bu'n arwain ac yn llwyddiannus gydag amryw gorau, ac yn arweinydd a chôr-feistr gwyliau cerddorol archddeoniaeth Caerfyrddin, a beirniadodd mewn llawer o eisteddfodau. Cyfansoddodd lawer o ddarnau cerddorol, a cheir hwynt yng ngherddoriaeth Y Cerddor. Bu ei anthemau, ' Clyw, f'enaid clyw ' a ' Dyma'r dydd, ' ei ganig ' Dyddiau haf ' a darnau eraill, yn boblogaidd. Bu farw 21 Ebrill 1930, a chladdwyd ei ym mynwent Beulah.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.