PRICHARD, JOHN (1817 - 1886), pensaer

Enw: John Prichard
Dyddiad geni: 1817
Dyddiad marw: 1886
Rhiant: Eleanor Prichard
Rhiant: Richard Prichard
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: pensaer
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth
Awdur: Megan Ellis

Mab y Parch. Richard Prichard, rheithor Llan-gan yn Sir Forgannwg a ficer corawl eglwys gadeiriol Llandaf, a'i wraig Eleanor. Ganed ef 6 Mai 1817 a bedyddiwyd ef gan ei dad yn Llan-gan 10 Gorffennaf 1817.

Astudiodd bensaernïaeth a phenodwyd ef yn bensaer i esgobaeth Llandaf. Bu'n gyfrifol am atgyweirio ac ailadeiladu nifer o eglwysi yn yr esgobaeth, yn enwedig eglwys Baglan, ac ef oedd y pensaer a fu'n gyfrifol am yr atgyweiriadau helaeth yn adeiladau'r eglwys gadeiriol yn Llandaf rhwng 1844 a 1857.

Bu farw 13 Hydref 1886 a chladdwyd ef ym mynwent eglwys gadeiriol Llandaf, ar ochr dde'r eglwys yn agos i Gapel y Forwyn, ac yn yr un bedd â'i dad a fu'n gysylltiedig â'r eglwys gadeiriol am 35 mlynedd. Gosodwyd tabled pres er cof amdano ar fur deheuol y tŵr de-orllewinol.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.