PRICE (PRICAEUS), JOHN (c. 1600 - 1676), ysgolhaig clasurol a diwinydd

Enw: John Price
Dyddiad geni: c. 1600
Dyddiad marw: 1676
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgolhaig clasurol a diwinydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: John James Jones

Ganwyd yn Llundain c. 1600, ei rieni yn Gymry. Addysgwyd ef yn Westminster, ac aeth oddi yno i Goleg Eglwys Crist, Rhydychen, yn 1617. Ond gan mai Pabydd ydoedd, nid ymaelododd, a gadawodd heb raddio. Aeth gyda Thomas Howard, un o feibion iarll Arundel, i'r Eidal, lle y cafodd y radd o Ddoethur yn y Gyfraith. Ar ôl dychwelyd i Loegr aeth i Iwerddon gyda'r iarll Strafford, a daeth yn gyfeillgar â'r archesgob Ussher. Yn ystod y Rhyfel Cartrefol ysgrifennodd amryw draethodau, na wyddys mo'u teitlau, ar ran plaid y brenin, ac am hyn carcharwyd ef. Wedi ei ryddhau dychwelodd i'r Cyfandir, a thua 1652 ymsefydlodd yn Florens. Gwnaeth y duc Ferdinand II ef yn Geidwad y Bathodau ac wedyn yn athro Groeg ym Mhrifysgol Pisa. Yn y diwedd ymsefydlodd yn Rhufain, lle y bu'r cardinal Francesco Barberini yn noddwr iddo. Treuliodd flynyddoedd olaf ei fywyd ym mynachdy S. Awstin, Rhufain, lle y bu farw yn 1676. Yr oedd Price, neu Pricaeus, fel yr arferai Ladineiddio ei enw, yn un o ysgolheigion clasurol disgleiriaf ei oes, ac ychwanegai at ei ddysgeidiaeth glasurol wybodaeth drylwyr o'r Ysgrythurau a'r tadau eglwysig. Cyhoeddodd argraffiadau o Apologia, 1637, a Metamorphoses, 1650, Apwleiws, a gwnaeth ddyfyniadau o'r llawysgrifau Groeg yn Llyfrgell Ymerodrol Vienna (rhai ohonynt yn awr yn yr Amgueddfa Brydeinig). Hefyd paratodd argraffiad o Hesychius o Alexandria, ond cyn ei fod yn barod cyhoeddwyd argraffiad Leyden, 1668, yr hwn, fodd bynnag, a gynhwysodd ' Index ' Price i'r gwaith. Cyhoeddodd esboniadau ar amryw o lyfrau'r Testament Newydd, y rhai a ymddangosodd wedyn yn Critici Sacri yr esgob Pearson. Y mae dau o'i lythyrau at Jean Bourdelot,, yr ysgolhaig Ffrengig, wedi eu cyhoeddi yn Deux lettres inédites de Jean Price d Bourdelot, publiées et annotées par P. T. de Larroque (Paris, 1883).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.