PRITCHARD
,
ROWLAND HUW
(
1811
-
1887
),
cerddor
;
g.
14 Ionawr 1811
yn y
Graienyn
, ger y
Bala
. Hanoedd o deulu'r
bardd
Roland
Huw
[q.v.]
. Dysgodd gerddoriaeth yn ieuanc, a llafuriodd drwy ei oes gyda chaniadaeth a cherddoriaeth. Yn
1844
dug allan
Cyfaill y Cantorion
yn cynnwys tua 40 o donau, y rhan fwyaf ohonynt o'i waith ef; ynddo ceir ei dôn ‘
Hyfrydol
,’ 8.7.D a gyfansoddodd yn 20 oed. Cyhoeddodd hefyd
Y Fasged Gerddorol
, sef crynodeb o egwyddorion cerddoriaeth. Cyfansoddodd a chynganeddodd lawer o donau a rhai anthemau, a cheir hwynt yn
Haleliwia
,
1849
,
Haleliwia Drachefn
,
1855
,
Llyfr Emynau a Thonau
(
Stephen
a
Jones
), a chasgliadau eraill. Symudodd i
Dreffynnon
yn
swyddog
dan y ‘
Welsh Flannel Manufacturing Co.
’ Bu f.
25 Ionawr 1887
. [Gw.
Adgofion Andronicus
, 49.]
Llyfryddiaeth:
-
M. O. Jones
,
Bywgraffiaeth Cerddorion Cymreig
,
Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol, 1890
;
-
Y Cerddor
,
Mehefin 1893
;
-
R. D. Griffith
,
Hanes canu cynulleidfaol Cymru
,
Caerdydd, 1948
.
Awdur:
Robert David Griffith, M.A., (1877-1958), Hen Golwyn