PRICE, DAVID (1762 - 1835), orientalydd

Enw: David Price
Dyddiad geni: 1762
Dyddiad marw: 1835
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: orientalydd
Maes gweithgaredd: Milwrol; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Dafydd Rhys ap Thomas

Ganwyd yn 1762 ym Merthyr Cynog ger Aberhonddu, ychydig cyn dyrchafiad ei dad (o'r un enw) yn ficer Llanbadarn Fawr ger Aberystwyth. Wedi marw ei dad yn 1775 cafodd David Price addysg rad gan David Griffith, prifathro ysgol Coleg Crist, Aberhonddu, cyn-bennaeth ei dad. Ar ôl un tymor yng Ngholeg Iesu, Caergrawnt (1779-80), ymrestrodd (yn herwydd tlodi ac afradlonedd) ym myddin yr East India Co., a gwasnaethodd yn India o 1781 hyd 1805 pryd y dychwelodd yn weddol gyfoethog o'i gyfran yn ysbail Seringapatam. Yn Ebrill 1807 priododd â chares i'w deulu yn byw yn Aberhonddu, lle hefyd y prynodd Watton House ar ei ymddiswyddiad terfynol yn Hydref ac yr ymroes i astudiaethau llenyddol. Argraffwyd ei lyfrau yng ngwasg leol Priscilla Hughes; y mwyaf adnabyddus yw ei Mohammedan History (1811-21) - gwaith sgolor cywir a manwl serch ei arddull gwmpasog. Gosodwyd carreg goffa iddo yn eglwys y Priordy wedi ei farw 16 Rhagfyr 1835, ar yr hon y dywedir iddo lanw swyddi ustus heddwch a dirprwy-raglaw. Tebyg yw mai ef oedd y David Price a fu'n feili 'r fwrdeisdref yn 1820 a 1827. Derbyniodd fedal aur yr Oriental Translation Committee yn 1830; cyfrannodd hefyd i gylchgrawn y Royal Asiatic Society, a gadawodd iddynt ei gasgliad gwerthfawr yn cynnwys tua 70 o MSS. orientalaidd gwerthfawr.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.