PRICE, DAVID (fl. 1700-42), gweinidog Annibynnol ac athro

Enw: David Price
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Annibynnol ac athro
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Ni wyddys ddim am fore'i oes. Tybir iddo gael addysg yn academi Roger Griffith, y Fenni. Urddwyd ef yn weinidog ar eglwys Maesyronnen, sir Faesyfed, c. 1700. Trigai yn Llwyn-llwyd ym mhlwyf Llaneigon sir Frycheiniog, a chadwai ysgol ramadeg yno - bu Hugh Evans, Bryste, a Howel Harris, Trefeca, yn efrydu dano. Yn 1735, trosglwyddwyd academi Caerfyrddin i'r Llwyn-llwyd, a phenodwyd Vavasor Griffiths, gweinidog eglwys Annibynnol Maes-gwyn, yn bennaeth arni. Cyplyswyd yr ysgol ramadeg â'r athrofa, mae'n ddigon tebyg, a chydweithiai'r ddau athro i'w chario ymlaen. Bu farw fis Awst 1742.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.