PREECE, Syr WILLIAM HENRY (1834 - 1913), peiriannydd trydan

Enw: William Henry Preece
Dyddiad geni: 1834
Dyddiad marw: 1913
Rhiant: Richard Matthias Preece
Rhiant: Jane Preece
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: peiriannydd trydan
Maes gweithgaredd: Peirianneg, Adeiladu, Pensaerniaeth Forwrol ac Arolygu Tir
Awdur: Edwin Augustine Owen

Ganwyd ym Mryn Helen, Caernarfon, 15 Chwefror 1834, mab hynaf Richard Matthias Preece, gŵr o'r Bont-faen, a aeth i Gaernarfon (1815) yn ysgolfeistr; aeth wedyn i wasanaeth Lloyd's Bank ac yn ddiweddarach ar y 'Stock Exchange'. Yr oedd ei fam Jane, yn ferch o Gaernarfon. Bu ei daid yn ysgolfeistr yn y Bontfaen, Sir Forgannwg.

Bu ei holl fywyd proffesiynol â chysylltiad rhyngddo â pheiriannaeth y telegraff ac â datblygiad peiriannaeth trydan. Cafodd ei addysg yn King's College, Lundain. Daeth yn ei flaen yn gyflym ym myd peiriannaeth; yn 1877 fe'i dewiswyd yn drydanydd yn swyddfa'r Prif Bostfeistr, Llundain, ac yn 1892 yn brif beiriannydd. Daeth yn enwog am ei ddarlithiau i'r cyhoedd, gwaith yr oedd yn rhagori ynddo, gan fod ganddo ddull da o ymadroddi a'r gallu i draddodi ei bwnc mewn dull syml ac ymarferol. Cymerai ddiddordeb mawr yn natblygiad cynnar y teleffon; cyhoeddodd ddwy gyfrol ar y peiriant hwnnw a darllen llawer o bapurau gerbron cymdeithasau gwyddonol. Etholwyd ef yn F.R.S. yn 1881.

Ond y mae'n debyg y cofir am Preece yn fwyaf arbennig oblegid ei waith fel arloeswr gyda'r telegraff diwifr. Gwnaeth lawer o arbrofion yn y mater hwn ar gulforoedd megis Sianel Bryste, afon Menai, y Solent, neu o'r tir i oleudy (e.e. y Skerries), neu rhwng pyllau glo a'i gilydd. Yn 1892 llwyddodd i anfon, dros y môr, negesau ar draws Môr Hafren o Benarth i ynys y Flat Holm, pellter o dros dair milltir. Yn rhyfedd iawn, fodd bynnag, methodd yn llwyr ag amgyffred natur a phwysigrwydd signalau diwifr yr esboniwyd hwy yn gywir yn ddiweddarach gan Hertz. Yr oedd iddo bersonoliaeth radlon; yr oedd yn drwyadl yn ei holl ymgymeriadau ac yn weithgar i'w ryfeddu. Cafodd yr anrhydedd o'i ddewis yn swyddog o'r Légion d'Honneur; cafodd hefyd radd D.Sc. (1911) Prifysgol Cymru. Yn niwedd ei oes trigai yng Nghaernarfon, ac yno y bu farw ar 6 Tachwedd 1913.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.