Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



POWYS (‘POWIS’), IEIRLL ( HERBERT ) . Cychwynnodd iarllaeth bresennol Powys ( Herbert ) yn 1674 gyda chreu WILLIAM HERBERT ( c. 1626 - 1696 ), 3ydd barwn Powys , yn iarll ; y ffurf swyddogol ar enw'r iarllaeth yw ‘Powis.’

Prynasai Syr EDWARD HERBERT (a fu f. 23 Mawrth 1595 , a'i gladdu yn y Trallwng ), ail fab William Herbert , iarll Penfro (y cyntaf wedi ailgreu'r iarllaeth honno) [q.v.] , o Anne Parr , ferch Syr Thomas Parr , y Castell Coch ym Mhowys a'i arglwyddiaeth gan Edward Grey (gw. Powys, Grey, arglwyddi ) yn 1587 . Ymddengys fod Syr Edward yn tueddu at Babyddiaeth , a chofnodir fod ei wraig a'i blant gwrthod cydymffurfio yn 1594 ( Trans. Cymm. 1945 , 122).


Yr oedd ei fab, WILLIAM HERBERT ( 1573 - 1656 ), o Mary ferch Thomas Stanley , Meistr y Mint , yn aelod seneddol sir Drefaldwyn rhwng 1597 a 1629 , yn aelod o'r cyngor yng Nghymru a'r gororau , yn un o'r rhai a urddwyd yn farchog pan goronwyd Iago I , ac yn siryf Maldwyn , 1613 . Yn 1616 cafodd faenorau Cydewain a Cheri a bwrdeisdref a chastell Trefaldwyn yn rhodd. Gwnaethpwyd yn farwn Powys 1af yn 1629 , a rhoddwyd iddo gwnstablaeth castell Maesyfed a stiwardiaeth y dref honno yn 1631 . Cadwodd gastell Powys dros Siarl I , a chroesawu'r brenin ar ymweliad yno, yn ystod y Rhyfel Cartref , ond bu raid iddo ildio i Syr Thomas Myddelton , 2 Hydref 1644 . Trydedd merch iarll Northumberland oedd ei wraig, Eleanor . Cadwodd ei noddwr, iarll Penfro ( Trans. Cymm. , 1942 , 70), ei ymlyniadau pabyddol rhag bod yn rhwystr iddo, ond yn ei flynyddoedd olaf ymddengys iddo ymgryfhau yn y ffydd honno, y magwyd ei blant ynddi gyda dyfalwch.


Dilynwyd ef gan yr unig fab a'i goroesodd, Syr PERCY HERBERT ( c. 1600 - 1667 ), a urddasid yn farchog ac a wnaethpwyd yn farwnig yn 1622 . Yr oedd yntau ar gyngor Cymru a'r gororau , 1633 . Yn 1639 , ef a gasglai gyfraniadau Pabyddion Maldwyn at y rhyfel yn erbyn y Sgotiaid , ac yn y Rhyfel Cartref yr oedd yntau ar du'r brenin. Pan adferwyd y Goron , ei enw ef oedd ar ben y rhestr ym mhetisiwn Gogledd Cymru yn erbyn y rhai a fu'n gyfrifol am ddienyddio'r brenin . Cyhoeddodd Certaine Conceptions … of Sir Percy Herbert , 1652 . Ei unig fab o Elizabeth Craven oedd yr iarll Powys cyntaf o'i linach.


Edrychid ar y 3ydd B ARWN P OWYS yn ei ddydd fel pennaeth y bendefigaeth babyddol yn Lloegr , ac yr oedd ei wraig hefyd o'r un ffydd. Elizabeth ferch ardalydd Worcester ydoedd hi, ac yn 1654 y priododd. Bu ef yng ngharchar o 1678 i 1685 o dan ddrwgdybiaeth fod a wnelai â'r cynllwyn pabaidd. Haerasai Titus Oates mai ef oedd i fod yn brif weinidog y Goron pe llwyddasai'r cynllwyn. Llosgwyd ei gartref yn Llundain , ar gwr Lincoln's Inn , gan y dyrfa, 26 Hydref 1684 . Yn sgil teyrnasiad Iago II daeth iddo ryddhad o'r profion crefyddol, a gwnaethpwyd ef yn aelod o'r Cyngor Cyfrin yn 1686 . Yn 1687 , dyrchafwyd ef i fod yn is-iarll Trefaldwyn ac ardalydd Powys , a gwnaethpwyd ef yn stiward ar faenorau'r brenin yn siroedd Aberteifi , Caerfyrddin , Dinbych , a Maesyfed , ac yn gofiadur Dinbych . Iddo ef a'i wraig, a oedd yn arglwyddes ystafell wely'r frenhines , y rhoddwyd gofal tywysog ieuanc Cymru yn 1688 . Llwyddasant i gael y plentyn yn ddiogel i Ffrainc , lle yr ymunodd y brenin â hwy. Dyrchafodd Iago ef i fod yn ardalydd Trefaldwyn ac yn ddug Powys , 12 Ionawr 1689 , a'r mis dilynol rhoddwyd ef ar herw, am deyrnfradwriaeth, gan y Senedd . Yr oedd gyda Iago yn Iwerddon , ac ymsefydlodd yn derfynol gydag ef yn Ffrainc , gan wasnaethu fel arglwydd ystafellydd y brenin a'i urddo'n farchog y gardas yn 1692 . Bu f. yn St. Germain-en-Laye , 2 Gorffennaf 1696 . Yr un flwyddyn rhoddwyd castell Powys i iarll Isellmynig Rochford . Dylanwadodd y dug i gymedroli ar Iago a gwelodd arweinwyr erlidiedig Anghydffurfiaeth ym Maldwyn (e.e. Richard Davies y Crynwr a Hugh Owen , Bronyclydwr ) gryn garedigrwydd ar ei law. Daeth dwy o'i ferched i enwogrwydd, y bedwaredd, LUCY HERBERT ( 1669 - 1744 ), fel abades y lleianod Awstinaidd Seisnig yn Bruges ac awdur llyfrau defosiynol a gyhoeddwyd yn 1791 o dan y teitl Several excellent methods of hearing Mass , a'r bumed, WINIFRED HERBERT (bu f. yn Rhufain , 1749 ), am iddi, gyda chymorth dwy wraig arall — Grace Evans y Trallwng (a fu f. 1737 ) ydoedd un — lwyddo i drefnu dihangfa i'w gŵr, iarll Nithsdale , ac yntau'n gorwedd dan ddedfryd marwolaeth yn Nhŵr Llundain am ei ran yng ngwrthryfel 1715 . Disgrifir y ddihangfa yn A Letter from Winifred Herbert … to her sister , 1827 .


Yr oedd ei unig fab, WILLIAM , A RGLWYDD H ERBERT ( c. 1665 - 1745 ), yn was anrhydedd yng nghoroniad Iago II , ac yn ddirprwy-raglaw siroedd Môn , Caerfyrddin , Caernarfon , Meirion , Mynwy , a Phenfro yn 1688 . Carcharwyd ef ar ddrwgdybiaeth o deyrnfradwriaeth yn 1689 , a'i roi ar herw yn 1696 , ond trwy wall technegol dihangodd ei stadau rhag eu hatafaelu. Wedi gwerthu'r tŷ ym meysydd Lincoln's Inn , adeiladodd Powis House yn Great Ormond Street . Carcharwyd ef eilwaith yn 1715 , o ddrwgdybio'i gefnogaeth i'r Ymhonnwr , ond yn 1722 adferwyd ei stadau iddo, a'i alw i'r Senedd fel ardalydd Powys . Nid adnewyddwyd y ddugiaeth, er yr ymddengys iddo gynllunio pwyso ei hawl iddi. Tori ydoedd mewn gwleidyddiaeth. Claddwyd ef yn Hendon , 29 Hydref 1745 , a gadawodd o'i wraig, Mary , ferch Syr Thomas Preston , ddau fab — WILLIAM , y 3ydd ardalydd , a fu f. yn ddibriod tua 50 oed yn 1748 , ac EDWARD (a fu f. 1734 ) y bu iddo o'i wraig Henrietta , ferch yr iarll Waldegrave 1af , ferch a aned wedi ei farw, BARBARA ( 1735 - 1786 ), a briododd


HENRY HERBERT , y 4ydd iarll (g. tua 1703 ), mab ac etifedd Francis Herbert , Dolguog a Pharc Oakley , o'i wraig Dorothy , ferch John Oldbury , masnachydd yn Llundain .

Disgynnai HENRY HERBERT yn uniongyrchol o Syr Rhisiart Herbert , brawd William Herbert , yr iarll Penfro 1af ( dienyddiwyd y ddau, 1469 ), y bu ei fab anghyfreithlon, Richard , yn gyndad ieirll Penfro a Threfaldwyn ac ardalyddion Powys . Yr oedd hefyd yn disgyn o Edward Herbert ( barwn Herbert o Chirbury o'r greadigaeth gyntaf ) i'r hwn y cymynodd y 3ydd ardalydd ei stadau. Yr oedd Henry Arthur Herbert yn Brotestant ac yn Chwig , hyd 1762 , ac aelod seneddol dros Bletchingley , 1724-7 , a Llwydlo , 1727-43 . Gwnaethpwyd ef yn farwn Herbert o Chirbury , 21 Rhagfyr 1743 . Yn 1745 cododd gatrawd o ffwsilwyr yn sir Amwythig i wrthwynebu'r Ymhonnwr ieuanc , a chyrhaeddodd radd cadfridog yn 1772 . Yn 1748 , gwnaethpwyd ef yn farwn Powys o gastell Powys , is-iarll Llwydlo , ac iarll Powys , ac yn farwn Herbert Chirbury a Llwydlo , yn 1749 . Yn 1761 , penodwyd ef yn rheolwr teulu'r brenin , aelod o'r Cyngor Cyfrin , a dirprwy-raglaw Maldwyn . O 1761 hyd 1765 yr oedd yn drysorydd y teulu, ond bu raid iddo ymddiswyddo i osgoi ei droi allan pan ddaeth y Chwigiaid i awdurdod. Pan briododd Barbara Herbert yn 1751 dywedir iddynt gytuno magu'r mab a'r ferch hynaf yn aelodau Eglwys Loegr a'r plant iau wrth ffydd eu mam. Mab a merch yn unig a oroesodd blentyndod, a'r ddau yn Brotestaniaid ,



GEORGE , a ddilynodd ei dad yn 1772 , a HENRIETTA , a briododd Edward , yr ail arglwydd Clive , yn 1784 . Ceir mynych gyfeirio at y 4ydd iarll yn llythyrau'r Morysiaid . Cymerai ddiddordeb yn y gweithfeydd mwyn a chafodd brydles ar Esgairmwyn , Aberteifi , yn 1757 , a chynigiodd Lewis Morris weithio'r mwyn drosto. Bu'r brodyr yn llawn gobaith y sicrhâi'r iarll ddyrchafiad i Oronwy Owen , yr hwn a gyfansoddodd gywydd yn Gymraeg a Lladin ar eni ei etifedd yn 1755 . Bu'r 4ydd iarll f. 11 Medi 1772 , a'i gladdu yn y Trallwng .

Yr oedd y 5ed iarll , GEORGE , yn gofiadur Llwydlo ac arglwydd-raglaw Maldwyn , 1776 , a sir Amwythig , 1798 . Bu farw'n ddibriod, 16 Ionawr 1801 , a'i gladdu yn y Trallwng . Gadawodd ei stadau i'w chwaer HENRIETTA ( 1758 - 1830 ), a briododd EDWARD ail farwn Clive o Plassey . Gwnaethpwyd hwnnw yn farwn Clive o Walcot yn 1794 , a bu'n llywodraethwr Madras o 1798 i 1803 . Yn 1804 gwnaethpwyd ef yn farwn Powys o gastell Powys , barwn Herbert o Chirbury , is-iarll Clive o Lwydlo , a iarll Powys . Yr oedd yn arglwydd-raglaw Maldwyn , 1804-30 , ac enwyd ef yn rhaglaw Iwerddon , 1805 , ond ni chymerodd at y swydd. Er mai Tori ydoedd, ochrodd gyda'r Chwigiaid o 1783 i 1794 , ond yn Nhŷ'r Arglwyddi pleidleisiodd yn erbyn trydydd darlleniad Mesur Diwygio'r Etholfraint yn 1832 . Bu f. 16 Mai 1839 , a chladdwyd ef yn Bromfield , sir Amwythig .



Yn unol ag ewyllys ei ewythr, frawd ei fam, cymerodd ei fab a'i aer EDWARD , is-iarll Clive , 1804-39 (addysgwyd yn Eton a Choleg S. Ioan , Caergrawnt ; LL.D. 1835 , D.C.L. Rhydychen 1844 , aelod seneddol dros Lwydlo 1806-39 ), arfau a chyfenw HERBERT yn lle rhai CLIVE , yn 1807 . Dilynodd ei dad fel arglwydd-raglaw Maldwyn yn 1830 , a chymerodd ran flaenllaw yn narostwng cythrwfl y Siartiaid yn 1839 . Yr oedd yn llywydd y Royal Cambrian Literary Institution a'r Welsh School , Gray's Inn Road , Llundain . Bu'n gefn i eisteddfod fawreddog y Trallwng , 1824 , ac o 1843 i 1847 arweiniodd yn y frwydr lwyddiannus yn erbyn uno esgobaethau Bangor a Llanelwy er mwyn gwaddoli esgobaeth Manceinion . Sefydlwyd ‘ Ysgoloriaethau Powys ’ yn Rhydychen a Chaergrawnt i fyfyrwyr yn paratoi am urddau eglwysig allan o'r swm o £5,000 a gasglwyd at dysteb gyhoeddus i ddangos gwerthfawrogiad o'i wasanaeth. Gwnaethpwyd ef yn K.G. yn 1844 . Yn 1828 ymunodd â Chlwb Roxburghe , gan fod yn llywydd yn 1835 , a chyfrannu The Lyvys of the Seyntys at ei gyhoeddiadau yn yr un flwyddyn. Ymgeisiodd am gangelloriaeth Prifysgol Caergrawnt yn erbyn y tywysog Albert yn 1847 , a chafodd 837 yn erbyn 954 o bleidleisiau. Ymhlith ei wasanaethau cyhoeddus ym Maldwyn yr oedd adeiladu tŵr eglwys blwyf a helaethu neuadd tref Trefaldwyn , a helaethu neuadd tref y Trallwng . Helaethodd gastell Powys hefyd. Bu f. 17 Ionawr 1848 , o dan amgylchiadau trist, wedi ei saethu'n ddamweiniol gan un o'i feibion, yr Anrhyd. Robert Charles Herbert . Claddwyd ef yn y Trallwng . Lucy ( 1793 - 1875 ), trydedd merch James , 3ydd dug Montrose , oedd ei wraig.


Dilynwyd ef gan ei fab hynaf EDWARD ( 1818 - 1891 ), is-iarll Clive , o 1839 hyd 1848 ; g. 5 Tachwedd 1818 . Addysgwyd yntau yn Eton a Choleg S. Ioan , Caergrawnt . Yr oedd yn ysgolhaig o fri yn y clasuron , ac yn uchel stiward Prifysgol Caergrawnt o 1863 . Bu'n gadeirydd sesiynau chwarter Maldwyn o 1855 ac yn arglwydd-raglaw 'r sir o 1877 . Efe oedd llywydd cyntaf Coleg y Brifysgol , Bangor , llywydd y Powysland Club o 1867 , a llywydd y Cambrian Archaeological Association , 1856 , ac Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion , 1885 . Cymerodd ran flaenllaw yn natblygiad addysg ganol ym Maldwyn , ac yr oedd yn enwog am ei haelioni tuag at adeiladu ac adnewyddu eglwysi . Bu f. yn ddibriod 7 Mai 1891 , a'i gladdu yn y Trallwng , gan adael ei stadau a'i deitl i'w nai, yr iarll POWYS presennol, mab ac etifedd y cadfridog Syr Percy Egerton Herbert , K.C.B. , P.C. ( 1822 - 1876 ; D.N.B. ).

Llyfryddiaeth:

  • Ll.G.C., Llawysgrifau Castell Powys yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ;
  • R. Williams , Montgomeryshire Worthies , ail arg., 1894 ;
  • The Complete Peerage , 1910–40 , x, 1945 ;
  • The Letters of Lewis, Richard, William, and John Morris, of Anglesey, (Morrisiaid Môn) 1728-1765 , 1907–9 ;
  • Additional Letters of the Morrises of Anglesey (1735-86). Y Cymmrodor , xlix, 1947-9 ;
  • Gwaith Goronwy Owen , Llanrwst, 1860 ;
  • Oxford Dictionary of National Biography am y ddau ardalydd ac am Edward Herbert ( 1785-1848 ), 9fed iarll Powis;
  • L. B. Namier , The structure of politics at the accession of George III , Llundain, 1929 , am Henry Arthur, y 4ydd iarll.

Awdur:

Evan David Jones, F.S.A., (1903-87), Aberystwyth