Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



POWELL , WILLIAM (‘ Gwilym Pennant ’; 1830 - 1902 ), bardd ; g. fis Awst 1830 yn Tai Duon , Dolbenmaen , sir Gaernarfon , yn fab i Ellis a Chatrin Powell . Bu'n gweithio mewn chwareli llechi yn Llanberis hyd 17 Ebrill 1852 , pryd y symudodd i Lundain yn dorrwr cerrig beddau , etc. Ysgrifennai bob ffurf ar farddoniaeth , a chyhoeddwyd ei waith yn Y Faner , Yr Herald , a chylchgronau eraill. Yr oedd yn gystadlydd brwd mewn eisteddfodau , ac enillodd fedalau arian yn eisteddfod genedlaethol Llandudno ( 1864 ), ac yn Abertawe ( 1863 ) a Llangefni . Ef oedd y pumed yng nghystadleuaeth y gadair ym Merthyr Tydfil ( 1888 ). Priododd (1), Mary Theodore , Llanfair Caereinion , a ganed iddynt bump o blant; a (2), 1895 , Jones o Westminster . Bu f. 16 Gorffennaf 1902 , a chladdwyd yn Llundain .

Llyfryddiaeth:

  • Kelt Llundain / London Kelt , Gorffennaf, 1903 ;
  • Bye–Gones, relating to Wales and the Border Counties , 1902 ;
  • J. Jones (‘Myrddin Fardd’) , Enwogion Sir Gaernarfon , 1922 .

Awdur:

Thomas Isfryn Jones, Aberystwyth