Ymhlith ei gyfeillion yn Rhydychen yr oedd Griffith Ellis , Bootle , a Llywarch Reynolds , Merthyr [qq.v.]. Wedi dod i Gaerdydd , daeth yn aelod gwerthfawr o bwyllgor Llyfrgell Caerdydd , ac y mae ar y ddinas ac ar y coleg ddyled drom iddo am fod ganddynt gasgliadau mor werthfawr o drysorau llenyddol, yn llawysgrifau llyfrau. Yr oedd hefyd o'r dechrau yn aelod o lys y Llyfrgell Genedlaethol , lle y mae bellach yr holl lawysgrifau a rhan helaeth o'r llyfrau prin a gasglasai. Yr oedd yn aelod o'r ‘ Society for Utilizing the Welsh Language ,’ ac yn un o'r pwyllgor a ddewiswyd ganddi i baratoi'r adroddiad Welsh Orthography a gyhoeddwyd yn 1893 (a thrachefn yn 1905 ).
Yr oedd yn ŵr tal, lluniaidd ac urddasol yr olwg, ei wybodaeth yn eang, ei gymeriad yn hardd a diymffrost. Bregus oedd ei iechyd drwy ei oes, ac fel y dywedodd droeon, bu raid iddo ddewis rhwng ei fyfyrwyr a'i waith ymchwil ei hun. Pe dewisasai yr olaf, mae'n sicr y buasai ei gyfraniad i wybodau Cymraeg a Cheltig yn fawr ac amryddawn a gwerthfawr. Dewisodd yn hytrach ymroi i'w fyfyrwyr, a da y gwyddent hwy faint eu ffawd o hynny. Cydnabuwyd ei wasanaeth i ysgolheictod Cymraeg gan Brifysgol Cymru â gradd D.Litt. ‘er anrhydedd’ yn 1921 Bu f. yn Aberystwyth , 16 Mai 1922 , a chladdwyd ef ym mynwent y dref ddydd Gwener, 19 Mai .
Athro-Emeritus Henry Lewis, D.Litt., (1899-1968), Abertawe