POWELL, THOMAS, Siartydd

Enw: Thomas Powell
Rhiant: Richard Powell
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: Siartydd
Maes gweithgaredd: Gwrthryfelwyr; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: David Williams

Ganwyd yn y Drenewydd, Sir Drefaldwyn, mab Richard Powell (a fu farw'n hen ŵr yn 1835). Dywedir fod ei fam yn perthyn i deulu Blayney, Gregynog. (Ni ddarganfuwyd hyd eto pa pryd y ganwyd ef.) Cafodd ei brentisio gyda gwerthwr nwyddau haearn ('ironmonger') yn Amwythig, a bu'n gweithio wedi hynny yn Llundain. Yn 1832 prynodd fusnes haearnwerthwr yn y Trallwng.

Y mae'n debyg i Powell ddyfod i gyswllt â meddylwyr radicalaidd yn Llundain; yr oedd yn gefnogydd cynnar i ymdrechion y ' Birmingham Political Union ' i ledaenu eu hegwyddorion yng nghanolbarth Cymru. Ar ddydd Nadolig 1838 bu'n siarad mewn cyfarfod cyhoeddus yn nhloty Caersws, gan annog y bobl i gyfrannu i gronfa y 'national rent' tuag at dreuliau confensiwn y Siartwyr a chondemnio mabwysiadu dulliau anghyfreithlon o symud ymlaen. Ym mis Ebrill 1839 danfonwyd ei gyfaill Henry Hetherington (a ddaeth i enwogrwydd ar gyfrif ei ymdrech dros ryddid y Wasg) gan y confensiwn ar genhadaeth i ganolbarth Cymru; ar 9 Ebrill siaradodd y ddau ddyn yn y Trallwng, gan fyned wedi hynny i Lanidloes, i Gwy, ac yn ôl i'r Trallwng.

Torrodd terfysg allan yn Llanidloes 30 Ebrill. Brysiodd Powell yno ac anerchodd y terfysgwyr gan geisio eu perswadio rhag gwneuthur dim drwy drais. Llwyddodd i gynorthwyo Armishaw, yr heddwas o'r Trallwng, a anafasid yn drwm, a'i helpu i ddychwelyd gartref. Cymerwyd Powell i'r ddalfa yn y Trallwng nos Sul, 5 Mai, gan swyddog heddwch y Drenewydd, ac aethpwyd ag ef i garchar Trefaldwyn. Bu yno hyd 29 Mehefin oblegid gwnaethpwyd ymdrech gref i'w rwystro rhag cael ei ollwng yn rhydd hyd ei brawf - pennwyd ei feichiau personol ef yn y swm o £300 a dau o feichniafon y gofynnid £150 yr un ganddynt; Dr. Edward Johnes, Garthmyl, tad Arthur James Johnes, oedd y naill, a Watson, llyfrwerthwr yn Llundain, oedd y llall. Gwelodd y Salopian Journal yn dda awgrymu y dylid galw sylw yr Arglwydd Ganghellor at y ffaith fod y cyntaf o'r rhain yn ustus heddwch.

Profwyd Powell ym mrawdlys y Trallwng ar 18 Gorffennaf gerbron y barnwr Patteson; achwynid ei fod wedi defnyddio iaith fradwrus yn y Drenewydd ar 9 Ebrill. Cynrychiolid ef gan W. Yardley, yn cael ei gyfarwyddo gan Hugh Williams. Yng nghwrs y prawf dyfarnodd y barnwr fod confensiwn y Siartwyr yn gynulliad anghyfreithlon. Un dyn yn unig a dystiolaethodd i'r geiriau bradwrus, yr achwynid ar Powell o'u plegid, gael eu defnyddio; y tyst hwnnw ydoedd clerc yr is-siryf, ac yr oedd y clerc hwn wedi bod yn gweithio'n galed i rwystro caniatáu meichiau i Powell. Tystiodd amryw bobl, fodd bynnag, i rediad cyffredinol geiriau Powell, eithr gwadai eraill iddo arfer yr ymadroddion arbennig y cyhuddwyd ef o'u defnyddio. Dyfarnodd y rheithwyr ef yn euog o ddefnyddio geiriau bradwrus eithr awgrymasant estyn trugaredd iddo. Condemniwyd ef i dreulio blwyddyn yng ngharchar Trefaldwyn, i ddarparu meichiau hyd at y swm o £400, a dau arall i ddarparu £100 yr un, a'i fod i addo cadw'r heddwch am gyfnod o bum mlynedd, ond i aros yn y carchar nes y byddai'r symiau hyn wedi eu talu. Rhyddhawyd ef, fodd bynnag, ar 18 Gorffennaf 1840, heb iddo orfod darparu'r symiau penodedig.

Wedi ei ryddhau aeth Powell i wasnaethu yn siop Hetherington yn Llundain; daw i'r golwg eto ym mhrawf Hetherington yn 1841 am werthu llenyddiaeth yr achwynid ei bod yn gableddus. Rhoddodd Hugh Williams fenthyg arian i Powell i brynu busnes Hetherington; yna talodd Hetherington yr arian yn ôl i Williams gan ddyfod ei hunan i'r llys yn ddyn tlawd a thrwy hynny drefnu na allai gwŷr y llys gymryd meddiant o'i eiddo pe dirwyid ef. Dedfrydwyd Hetherington gan y prif farnwr Denham i chwech wythnos (yn unig) yng ngharchar dyledwyr; rhoes y ddedfryd hon derfyn ar erlyn am gabledd.

Wedi hyn bu Powell yn weithgar gyda chynlluniau trefedigaethol. Trefnodd i fintai ymfudo i Dde America, eithr profodd yr antur yn aflwyddiant. Ymsefydlodd yn Trinidad a dywedir iddo briodi dynes ddu. Ni wyddys ym mha flwyddyn y bu farw.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.