POWELL, THOMAS (1608? - 1660), clerigwr

Enw: Thomas Powell
Dyddiad geni: 1608?
Dyddiad marw: 1660
Rhiant: John Powell
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Garfield Hopkin Hughes

o blwyf Cantref, sir Frycheiniog; mab John Powell, rheithor Cantref, 1601-26. Yn ôl Wood, fe'i ganed yn 1608, ond 18 oedd ar 25 Ionawr 1627/8, yn ôl Foster. Aeth i Goleg Iesu, Rhydychen (B.A. 1629, M.A. 1632, D.D. 1660). Cafodd fywoliaeth Cantref, 4 Mai 1635 - ei frawd hynaf, Hugh Powell, oedd y noddwr. Collodd y rheithoraeth yn 1650, o dan y Weriniaeth, a bu'n alltud am gyfnod. Yn 1651 cyhoeddodd ei gyfieithiad o waith yr Eidalwr Virgilio Malvezzi : Stoa Triumphans: or Two Sober Paradoxes, I. The Praise of Banishment, II. The Dispraise of Honors, ond nid oes arwyddocâd arbennig i'r teitl, oblegid yn Chwefror a Mawrth 1653/4 yr oedd ef a dau o'i gyd-offeiriaid yn ceisio caniatâd i bregethu gan Jenkin Jones, Llanddety, un o'r profwyr o dan Ddeddf Taeniad yr Efengyl yng Nghymru. Y mae'n bosibl mai diystyru gwaharddiad Jenkin Jones a'i gwnaeth yn alltud. Y mae adflas o chwerwder y blynyddoedd hyn yn ei unig waith Cymraeg, Cerbyd Iechydwriaeth, 1657. Adferwyd ef i'r plwyf yn 1660, a gwnaed ef yn ganon Tyddewi. Cafodd ei enwi, medd traddodiad, ar gyfer esgobaeth Bryste, ond bu farw, 31 Rhagfyr 1660, cyn ei ethol. Yn eglwys St. Dunstan's in the West yn Lundain y mae ei fedd.

Y mae rhestr o'i weithiau gan Wood. Henry Vaughan, y bardd, oedd ei gyfaill agosaf, ac iddo ef y gadawodd ei weithiau llawysgrifol, yn eu plith ' Fragmenta de Rebus Britannicis, A Short Account of the Lives, Manners and Religion of the British Druids and Bards.'

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.