POWELL, EDWARD (1478? - 1540), diwinydd Pabaidd

Enw: Edward Powell
Dyddiad geni: 1478?
Dyddiad marw: 1540
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: diwinydd Pabaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Emyr Gwynne Jones

Ganwyd yng Nghymru tua 1478 ac addysgwyd ef yn Rhydychen lle y graddiodd yn M.A.; daeth yn gymrawd o Goleg Oriel yn 1495. Penodwyd ef yn rheithor Bleadon, Somerset, 1501, ac wedi hynny bu'n dal bywiolaethau eraill yn Salisbury, Carlton-cum-Thurlby, Lyme Regis, Bedminster, Bryste, a Sutton le Marsh. Pregethodd droeon yn y Llys wedi i Harri VIII ddod i'r orsedd. Pan ymledodd athrawiaethau Luther i Loegr, gwrthwynebwyd hwy'n ffyrnig gan Powell mewn traethawd, Propugnaculum summi Sacerdotii Evangelid, a gyhoeddodd yn 1523. Datganodd yn bendant a chroyw yn erbyn ysgariad Harri oddi wrth Catherine o Aragon, a'i briodas ag Anne Boleyn; am hynny, a hefyd oherwydd ei bregethu mynych yn erbyn y Diwygiad Protestannaidd, collodd ffafr y Llys, a phan wrthododd yn 1534 gydnabod yr olyniaeth i'r orsedd, caed ef yn euog o uchel frad. Bu'n garcharor yn y Tŵr hyd Orffennaf 1540, pryd y cymerwyd ef a phump arall i Smithfield a'u dienyddio yno.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.