POOLE
,
EDWIN
(
1851
-
1895
),
newyddiadurwr, argraffydd, a hanesydd lleol
;
g. yng
Nghroesoswallt
28 Chwefror 1851
. Aeth i
Aberhonddu
tua 1866
i weithio ar y
Brecon County Times
; ond yn
1889
cychwynnodd y
Brecon and Radnor Express
, a bu'n
olygydd
iddo. Ymddiddorai'n fawr yn hanes
Aberhonddu
a
Brycheiniog
, a
chyhoeddodd nifer o lyfrau
; y mwyaf hysbys yw
History of the Breconshire Charities
,
1880
;
Military Annals of the County of Brecknock
,
1885
;
Illustrated History and Biography of Brecknockshire
,
1886
; a
John Penry
,
1893
. Dug allan hefyd gylchgrawn hynafiaethol, byrhoedlog ond defnyddiol iawn,
Old Brecon Chips
,
1886-8
. Bu f.
15 Ebrill 1895
.
Llyfryddiaeth:
-
Bye–Gones, relating to Wales and the Border
Counties
,
1895
, 83;
-
Cardiff Free Libraries, Catalogue of Printed
Literature in the Welsh Department
, 1898
;
-
The Brecon and Radnor Express
,
15 Ebrill 1895
.
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D.,
F.S.A., (1881-1969), Bangor